Robert Elis (Cynddelw)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cynddelw ar ddiwedd ei oes

Bardd, golygydd a geiriadurwr Cymreig oedd Robert Elis (3 Chwefror 181219 Awst 1875), neu Cynddelw, ganed yn Nhyn y Meini, Bryndreiniog, ger Penybontfawr, plwyf Llanrhaeadr-ym-Mochnant, yn yr hen Sir Drefaldwyn, (Powys).[1]

Gyrfa a gwaith llenyddol[golygu]

Gwas fferm ydoedd o 1822 hyd 1835. Dechreuodd bregethu yn 1834 a chafodd yrfa hir fel gweinidog gyda'r Bedyddwyr. Bu'n gweinidogaethu yn Llanelian a Llanddulas, 1836-8 ; Glynceiriog, 1838-42; Sirhowy, 1847-62 a Chaernarfon rhwng 1862-75.

Bu'n olygydd ar y cylchgronau Y Tyst Apostolaidd (1845-1850) ac Y Tyst (1857). Cyfranodd erthyglau ar Carnhuanawc a Dr William Owen Pughe i'r Gwyddoniadur Cymreig yn ogystal a chynorthwyodd Gweirydd ap Rhys ar ei gampwaith Hanes y Brytaniaid a'r Cymry.

Roedd Cynddelw yn ffigwr adnabyddus ym myd llenyddol Cymru ganol y 19eg ganrif. Golygodd Geiriadur y Bardd (d.d.), ac ail argraffiadiau o ddau glasur o'r 18fed ganrif, sef Gorchestion Beirdd Cymru (1864) a Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (sic) (Lerpwl, 1873).

Gweithiai'n gadarn o blaid y Gymraeg ac yn 1867 cyhoeddodd ei eiriadur arloesol Geiriadur Cymreig Cymraeg, gyda'r is-deitl "sef, Geiriau Cymraeg yn cael eu hegluro yn Gymraeg". Dyma'r geiriadur uniaith Gymraeg gyntaf. Symbyliad Cynddelw oedd ennyn mwy o barch gan y Cymry at eu hiaith eu hunain. Fel y dywed yn ei ragymadrodd i'r gyfrol,

Cynddelw tua 1875

Dyma i chwi gynnyg newydd, a gwahanol i ddim a gafwyd o'r blaen, ym maes Geiriaduriaeth hen iaith y Cymry... Pa beth a ddywedasai y Saeson pe buasent yn awr heb yr un Geirlyfr yn eu hiaith eu hunain, namyn Saesonaeg a Lladin, neu Saesonaeg a Ffrangcaeg, etc.? Ond gadawyd ni hyd heddyw i ymdaro fel y gallem ar Eirlyfrau Cymraeg wedi eu hegluro yn Saesonaeg, neu yn y gwrthwyneb.

O'i waith ei hun, cyhoeddodd Manion Hynafiaethol (1873), cofiannau i'w athro John Williams (1805–1856) a Dr Ellis Evans o Gefn-mawr. Ymddangosodd eu cerddi yn y wasg Gymraeg ac fe'i cyhoeddwyd mewn un gyfrol, Barddoniaeth Cynddelw (1877) wedi ei farw yn ei hen gartref, y Gartheryr , rhwng Croesoswallt a Llanrhaeadr.

Llyfryddiaeth[golygu]

Gwaith Cynddelw[golygu]

Llyfrau gwreiddiol
  • Tafol y Beirdd
  • Geiriadur y Bardd (H. Humphreys, Caernarfon. Dim dyddiad, tua'r 1870au)
  • Geiriadur Cymreig Cymraeg (1867)
  • Manon Hynafiaethol (1873)
  • Barddoniaeth Cynddelw, golygwyd gan Ioan Arfon (1877)
Golygydd

Darllen pellach[golygu]

  • D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a Llenorion Cymreig y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (Lerpwl, 1922). Tud. 84-86.
  • David Williams, Cofiant Cynddelw (1925)

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Y Bywgraffiadur Ar-lein; Gwefan y Llyfrgell Genedlaethol; adalwyd 04/11/2012