Brymbo
Pentref a chymuned ar gyrion Wrecsam a ward o'r dref honno yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw Brymbo. Bu Melin Dur Brymbo yn gyflogwr pwysig yn yr ardal tan iddo gau yn ddiweddar a chafwyd gweithfeydd haearn a glo yno hefyd.
Ceir eglwys yn y pentref, sef Eglwys Fair (1872), a chapel Y Tabernacl Tun (Methodistiaid Saesneg). Trowyd capel gwreiddiol Y Tabernacl yn floc o fflatiau.
Cynnwys |
Yr enw [golygu]
Yn ei lyfr Yn Ei Elfen, mae'r diweddar Athro Bedwyr Lewis Jones yn dangos mai llygriad o'r enw Bryn-baw ydyw Brymbo.[1] Does neb yn gwybod pam y cafodd yr enw.
Cofnodir yr enghraifft gynharaf o'r enw "Brynbaw" mewn dogfen a ysgrifenwyd yn 1391 (cofnodir y Seisnigiad Brynbawe), ac mae'r cofnod cynharaf o'r sillafiad cyfoes yn dyddio o 1416. Mae'n bosib mai cyfeirio mae'r enw at domen o wastraff o'r gweithfeydd mwyngloddio gerllaw.[2] Ar y llaw arall, ceir yr enw Brymbo mewn rhannau eraill o Gymru lle nad oes gweithfeydd a mwyngloddio e.e. Brymbo ar gwr Eglwysbach, Sir Conwy. Newidiwyd yr 'n' i 'm' fel a wnaed yn yr enw 'y Bermo'.
Dyn Brymbo [golygu]
Yn 1958 gwnaed darganfyddiad archaeolegol pwysig gan weithwyr yn tyllu clawdd, sef gweddillion dyn o Oes yr Efydd a gafodd ei lysenwi yn "Ddyn Brymbo". Tybir iddo farw tua 1600 C.C..[3]
Dolenni allanol [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Yn ei Elfen (Gwasg Garreg Gwalch, 1992), t. 29.
- ↑ Dictionary of Place-names of Wales, Gwasg Gomer, 2007.
- ↑ [http://www.wrexham.gov.uk/english/heritage/brymbo_man/index.htm Gwefan Sir Wrecsam
Acrefair · Bangor-is-y-coed · Y Bers · Bronington · Brymbo · Brynhyfryd · Bwlchgwyn · Caego · Cefn Mawr · Coedpoeth · Erbistog · Froncysyllte · Garth · Glanrafon · Glyn Ceiriog · Gresffordd · Gwersyllt · Hanmer · Holt · Johnstown · Llai · Llanarmon Dyffryn Ceiriog · Llannerch Banna · Llan-y-pwll · Llechrydau · Marchwiail · Marford · Y Mwynglawdd · Yr Orsedd · Owrtyn · Y Pandy · Pentre Bychan · Pentredŵr · Pen-y-bryn · Penycae · Ponciau · Pontfadog · Rhiwabon · Rhosddu · Rhosllannerchrugog · Rhostyllen · Rhosymedre · Talwrn Green · Trefor · Tregeiriog · Y Waun · Wrecsam · Wrddymbre