Glyn Ceiriog
Hen bentref chwareli llechi yw Glyn Ceiriog (Llansanffraid Glyn Ceiriog yn llawn), yn Mwrdeistref Sirol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru. Gorwedd y pentref ar lan afon Ceiriog a'r ffordd B4500, 6.5 milltir (10 km) i'r gorllewin o'r Waun a 3.5 milltir (5.5 km) i'r de o Langollen. Yn wleidyddol mae'n rhan o ward Dyffryn Ceiriog, yn etholaeth cynulliad De Clwyd a'r etholaeth seneddol o'r un enw. Roedd chwareli llechi estynedig yno ac adeiladwyd Ffordd Tramiau Dyffryn Glyn i gymryd y llechi i lanfa ar Gamlas Undeb Swydd Amwythig ac yn nes ymlaen i gyfnewid traciau gyda rheilffordd y Great Western Railway o Gaer i Amwythig.
Cynnwys |
Daearyddiaeth a gweinyddiaeth [golygu]
Hanes gweinyddol [golygu]
Yn hanesyddol, gweinyddwyd Glyn Ceiriog fel plwyf ac yn nes ymlaen fel plwyf gweinyddol Llansanffraid Glyn Ceiriog. O ganol y 16eg ganrif hyd 1974, llywodraethwyd Glyn Ceiriog gan sir weinyddol Sir Ddinbych, a rannwyd yn sawl ardal wledig. Rhwng 1895 a 1935, roedd Glyn Ceiriog yn rhan o Ardal Wledig y Waun, a gyfunwyd gydag Ardal Wledig Llansilin yn 1935 i greu Ardal Wledig Ceiriog. Roedd Glyn Ceiriog yn ran o Ardal Wledig Ceiriog wedyn o 1935 hyd 1974.
Yn 1974, cafwyd wared ar yr hen Sir Ddinbych fel sir weinyddol, a chyfunwyd Glyn Ceiriog ag Ardal Glyndŵr yn sir newydd Clwyd. Cafwyd wared ar sir Clwyd ac Ardal Glyndŵr yn 1996, a daeth Glyn Ceiriog yn ran o awdurdod unedol Bwrdeistref Sirol Wrecsam, fel y mae hyd heddiw.
Cynrychiolaeth wleidyddol [golygu]
Gweinyddir Glyn Ceiriog o fewn Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a drodd yn awdurdod unedol yn 1998. Mae Glyn Ceiriog yn ran o ward Dyffryn Ceiriog, ac mae ganddi gynghorwr annibynol.
O 1999, cynrychiolwyd Glyn Ceiriog yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan Karen Sinclair, Aelod Cynulliad y Blaid Lafur ar gyfer De Clwyd.
Ers 1997, cynrychiolir Glyn Ceiriog yn Senedd y Deyrnas Unedig gan Martyn Jones, Aelod Seneddol Llafur De Clwyd.
Daearyddiaeth/daeareg [golygu]
Lleolir Glyn Ceiriog yn Nyffryn Ceiriog, dyffryn a grewyd gan afon Ceiriog. Yn ddaearegol, mae gan y dyffryn stratau Ordoficiaidd a Silwriaidd. Mae'r pridd yn fân ac yn fawnog.
Pobl o Lyn Ceiriog [golygu]
Mae sawl llenor wedi byw yn neu'n agos i Lyn Ceiriog yn y gorffenol, yn cynnwys:
- Guto'r Glyn (1435 - 1493). Mae cysylltiadau rhwng y bardd canoloesol a Glyn Ceiriog.
- Huw Morus (Eos Ceiriog) (1622 - 1709), ganed a bu'n byw ger Glyn Ceiriog.
- Robert Elis (Cynddelw) (1812 - 1875), ieithydd a bardd buddugol yr Eisteddfod. Bu'n weinidog yng Nghapel Annibynnol Bedyddwyr Cymru yng Nglyn Ceiriog o 1838 hyd 1840.
- Islwyn Ffowc Elis. Treuliodd y nofelydd y rhan fwyaf o'i blentyndod ar fferm ger Glyn Ceiriog, er y ganed ef yn Wrecsam.
- Gwilym Thomas Hughes. Dramodydd
Dolenni allanol [golygu]
Acrefair · Bangor-is-y-coed · Y Bers · Bronington · Brymbo · Brynhyfryd · Bwlchgwyn · Caego · Cefn Mawr · Coedpoeth · Erbistog · Froncysyllte · Garth · Glanrafon · Glyn Ceiriog · Gresffordd · Gwersyllt · Hanmer · Holt · Johnstown · Llai · Llanarmon Dyffryn Ceiriog · Llannerch Banna · Llan-y-pwll · Llechrydau · Marchwiail · Marford · Y Mwynglawdd · Yr Orsedd · Owrtyn · Y Pandy · Pentre Bychan · Pentredŵr · Pen-y-bryn · Penycae · Ponciau · Pontfadog · Rhiwabon · Rhosddu · Rhosllannerchrugog · Rhostyllen · Rhosymedre · Talwrn Green · Trefor · Tregeiriog · Y Waun · Wrecsam · Wrddymbre