Marford
Cymuned ym mwrdeisdref sirol Wrecsam yw Marford. Nid ymddengys fod enw Cymraeg yn bodoli. Saif ychydig i'r dwyrain o'r briffordd A483, rhwng Gresffordd a Rossett. Llifa Afon Alun gerllaw. Ystyrir ward Marford a Hoseley yn un o'r tair ward gyfoethocaf yng Nghymru. Ceir dwy dafarn yma, ond nid oes siop bellach, ac mae'r ddau gapel wedi cau.
Adeiladwyd llawer o dai y pentref gan ystad Trefalun, ac mae Marford yn enwog am ei bythynnodd yn yr arddull a elwir yn cottage orné. Rhestrwyd amryw ohonynt gan Cadw. Ar un adeg roedd y pentref yn enwog am ei ysbrydion.
Gerllaw'r pentref mae hen chwarel, a agorwyd yn 1927 i gloddio defnydd ar gyfer Twnel Merswy. Caewyd y chwarel yn 1971. Enwyd y safle yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn 1989, ac yn 1990 prynodd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru 26 acer o'r safle i'w ddatblygu fel gwarchodfa.
Acrefair · Bangor-is-y-coed · Y Bers · Bronington · Brymbo · Brynhyfryd · Bwlchgwyn · Caego · Cefn Mawr · Coedpoeth · Erbistog · Froncysyllte · Garth · Glanrafon · Glyn Ceiriog · Gresffordd · Gwersyllt · Hanmer · Holt · Johnstown · Llai · Llanarmon Dyffryn Ceiriog · Llannerch Banna · Llan-y-pwll · Llechrydau · Marchwiail · Marford · Y Mwynglawdd · Yr Orsedd · Owrtyn · Y Pandy · Pentre Bychan · Pentredŵr · Pen-y-bryn · Penycae · Ponciau · Pontfadog · Rhiwabon · Rhosddu · Rhosllannerchrugog · Rhostyllen · Rhosymedre · Talwrn Green · Trefor · Tregeiriog · Y Waun · Wrecsam · Wrddymbre