Gwersyllt

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 53°04′36″N 3°01′18″W / 53.076621°N 3.021745°W / 53.076621; -3.021745

Gwersyllt
Saesneg: Gwersyllt
Holy Trinity Church, Gwersyllt - geograph.org.uk - 623427.jpg
Eglwys y Plŵy yng Ngwersyllt: Y Drindod Sanctaidd.
[[File:|240px|Gwersyllt is located in Wrecsam]]
Gwersyllt

 Gwersyllt yn: Wrexham
Cyfeirnod grid yr AO SJ316537
Prif ardal Wrecsam
Sir seremonïol Clwyd
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost WRECSAM
Rhanbarth cod post LL11
Cod deialu 01978
Yr Heddlu Gogledd Cymru
Tân Gogledd Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Wrecsam
Cynulliad Cymru Wrecsam
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Wrecsam

Pentref o faint sylweddol a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam yw Gwersyllt. Saif ychydig i'r gogledd o dref Wrecsam, ger y briffordd A541.

Roedd nifer o byllau glo yn yr ardal yma. Yn 1896 roedd gan bwll glo Gwersyllt 185 o weithwyr, 167 ohonynt dan y ddaear. Yn yr 20fed ganrif adeiladwyd llawer o dai cyngor yma. Ers yr wythdegau adeiladwyd stadau preifat ar bob ochr a llenwi'r bylchau rhwng Gwersyllt, Bradle ac mae'r pentref yn cyrraedd Pendine erbyn heddiw.

Mae gan Gwersyllt orsaf trên ar y lein Wrecsam - Bidston a thair swyddfa bost (Bradle, Gwersyllt a Brynhyfryd). Yng nghanol y pentref mae Ysgol Gyfun Bryn Alyn. Yn ôl y cyfrifiad 1991 roedd 721 siaradwyr Cymraeg yn y pentref (tri ward) sef rhyw 8% o'r boblogaeth. Mae'r ffigwr wedi codi i 1018 erbyn 2001 bron 11% o'r boblogaeth. Mae'r A541 yn hollti'r pentref ac mae ystâd diwydiannol sylweddol yn y pentref ynghyd ag archfarchnad a chanolfan siopa. Mae Gorsaf Radio "Marcher" yn y pentref a chanolfan chwaraeon Gwyn Evans ynghlwm wrth Ysgol Bryn Alyn. Ym mis Awst 2012 torrwyd y dywarchen gyntaf ar gyfer Ysgol Gymraeg Gwersyllt.

Eglwysi [golygu]

  • Eglwys Plwyf Gwersyllt. Mae gan Eglwys Plwyf Gwersyllt gwydr lliw o safon a mynwent sylweddol. Crewyd Plwyf Gwersyllt yn Nhachwedd 1851, o rannau treflan Gwersyllt (cynt ym mhlwyf Gresford), a Stansty (cynt ym mhlwyf Wrecsam). Gosodwyd y maen sylfaen ar 13 Gorffennaf 1850, a'i gysegru fel Eglwys y Drindod (Holy Trinity), ar 25 Gorffennaf 1851.
  • Eglwys Bresbyteraidd Saesneg, saif capel English Congregational ger yr orsaf,
  • Capel yr Annibynnwr, dymchwelwyd capel Annibynnol Brynhyfryd (Summerhill) yn y 70au.

Ysgolion Gwersyllt [golygu]

  • Ysgol Bryn Alyn. Arwyddair: "Dim heb Ymdrech" Sefydlwyd ym 1958; bellach mae gan yr ysgol staff o 50 a thua 780 plant 11-16 oed.
  • Ysgol Gynradd Gwersyllt: a sefydlwyd yn 2007 drwy uno Ysgol y Gaer a Gwersyllt County Primary Junior School.
  • Ysgol Gynradd Heulfan: a agorwyd ym Medi 2005 drwy uno Ysgol Bryn Golau ac Ysgol y Drindod. Mae tua 204 o blant llawn amser, 40 yn y meithrinfa a 27 yn 'Y Canol' uned ar gyfer plant ag anableddau.
  • Canolfan Cefnogaeth Gwersyllt
  • Dodds Lane Student Centre - Gwersyllt
  • Ysgol Gymraeg Gwersyllt. Ym mis Awst 2012 torrwyd y dywarchen gyntaf ar gyfer yr ysgol newydd sbon.

Dolenni allanol [golygu]


CymruWrecsam.png Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Wrecsam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato