Erbistog
Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Wrecsam yw Erbistog (Saesneg: Erbistock). Saif bron ar y ffîn rhwng Cymru a Lloegr, ar lan orllewinol Afon Dyfrdwy, i'r de o dref Wrecsam ac i'r dwyrain o Rhiwabon.
Arferai'r safle yma fod yn un o'r ychydig leoedd lle gellis croesi'r rhan yma o Afon Dyfrdwy yn ddiogel ar fferi. Dywedir fod y Boat Inn, sy'n dyddio o'r 18fed ganrif, ar safle'r hen fferi. Adeiladwyd yr eglwys, a gysegrwyd i Sant Bar, yn 1861. Crybwyllir eglwys gynharach, yn dyddio o'r 13eg ganrif, oedd wedi ei chysegru i Sant Erbin. Dywedir fod neuadd y pentref ar safle hen ysgol a sefydlwyd gan y merthyr Catholig Rhisiart Gwyn. Mae poblogaeth y gymuned yn 409.
Adeiladau Pwysig [golygu]
- Plas Erbistog (Gradd II)
- Melin Erbistog
- Eglwys Sant Hilary (Gradd II)
- Tafarn y Cwch (Gradd II)
- Yr Hen Rheithordy
- Rhosynallt (Gradd II)
Cyfrifiad 2011 [golygu]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013
Acrefair · Bangor-is-y-coed · Y Bers · Bronington · Brymbo · Brynhyfryd · Bwlchgwyn · Caego · Cefn Mawr · Coedpoeth · Erbistog · Froncysyllte · Garth · Glanrafon · Glyn Ceiriog · Gresffordd · Gwersyllt · Hanmer · Holt · Johnstown · Llai · Llanarmon Dyffryn Ceiriog · Llannerch Banna · Llan-y-pwll · Llechrydau · Marchwiail · Marford · Y Mwynglawdd · Yr Orsedd · Owrtyn · Y Pandy · Pentre Bychan · Pentredŵr · Pen-y-bryn · Penycae · Ponciau · Pontfadog · Rhiwabon · Rhosddu · Rhosllannerchrugog · Rhostyllen · Rhosymedre · Talwrn Green · Trefor · Tregeiriog · Y Waun · Wrecsam · Wrddymbre