Cefn Mawr

Oddi ar Wicipedia
Cefn Mawr
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCefn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.973°N 3.076°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ277423 Edit this on Wikidata
Cod postLL14 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auKen Skates (Llafur)
AS/auSimon Baynes (Ceidwadwyr)
Map

Pentref yng nghymuned Cefn, bwrdeisdref sirol Wrecsam, Cymru, yw Cefn Mawr neu Cefn-mawr.[1] Saif y pentref ychydig i'r de o Riwabon, gerllaw glan ogleddol Afon Dyfrdwy, ac ychydig i'r de o'r briffordd A539 ac i'r gogledd o'r A5.

Ar un adeg roedd Cefn Mawr yn bentref diwydiannol pwysig, gyda nifer o weithfeydd haearn a phyllau glo. Yn 1867, sefydlodd Robert Ferdinand Graesser, cemegydd diwydiannol o'r Almaen, waith cemegol ar safle Plas Kynaston, a ddaeth cyn hir yn brif gynhyrchydd phenol y byd. Mae'r gwaith yn awr yn eiddo i gwmni Flexsys.

Gerllaw mae Traphont Pontcysyllte, lle mae'r Camlas Llangollen yn croesi'r dyffryn Afon Dyfrdwy. Cefn Mawr yw'r cartref clwb pêl-droed C.P.D. Derwyddon Cefn NEWI.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Simon Baynes (Ceidwadwyr).[2][3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 16 Tachwedd 2021
  2. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014