Hanmer
Pentref bychan a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam yw Hanmer. Gorwedd yn ardal Wrecsam Maelor, tua phum milltir i'r gorllewin o dref Whitchurch, dros y ffin yn Lloegr, a 10 milltir i'r de-ddwyrain o dref Wrecsam. Mae'n enwog am ei eglwys hynafol a gysegrir i Sant Chad.
Tua dwy kilometr i'r gogledd-ddwyrain saif hen domen mwnt a beili Castell Cop.
Hanes [golygu]
Gorwedd Hanmer yn hen gwmwd Maelor Saesneg. Bu'n rhan o deyrnas Powys Fadog yn yr Oesoedd Canol.
Ganed y rhyfelwr enwog Mathau Goch (1386 - 1450) yn Hanmer yn 1386, yn fab i Owain Goch (neu Gough), beili Hanmer yng nghantref Maelor. Roedd mam Mathau yn ferch i David Hanmer, yntau'n frodor o'r pentref. Roedd rhai o'r teulu yn gefnogol iawn i Owain Glyndŵr. Priododd y tywysog hwnnw ei wraig Margaret Hanmer yn 1383, yn Hanmer.
Gweler hefyd [golygu]
- Yr Owredd, plasdy yn perthyn i'r Hanmeriaid.
- Croes Eglwys Hanmer
Acrefair · Bangor-is-y-coed · Y Bers · Bronington · Brymbo · Brynhyfryd · Bwlchgwyn · Caego · Cefn Mawr · Coedpoeth · Erbistog · Froncysyllte · Garth · Glanrafon · Glyn Ceiriog · Gresffordd · Gwersyllt · Hanmer · Holt · Johnstown · Llai · Llanarmon Dyffryn Ceiriog · Llannerch Banna · Llan-y-pwll · Llechrydau · Marchwiail · Marford · Y Mwynglawdd · Yr Orsedd · Owrtyn · Y Pandy · Pentre Bychan · Pentredŵr · Pen-y-bryn · Penycae · Ponciau · Pontfadog · Rhiwabon · Rhosddu · Rhosllannerchrugog · Rhostyllen · Rhosymedre · Talwrn Green · Trefor · Tregeiriog · Y Waun · Wrecsam · Wrddymbre