Y Waun
| Y Waun Wrecsam |
|
- Am faestref Caerdydd, gweler Y Waun, Caerdydd
Mae'r Waun (Saesneg: Chirk) yn dref ym mwrdeistref sirol Wrecsam, ar y ffin â Lloegr. Mae'n enwog fel lleoliad Castell y Waun.
[golygu] Hanes
Roedd yr hen blwyf yn cynnwys y trefgorddau Y Waun, Bryncunallt, Gwernospin, Halchdyn a Phenyclawdd.
Rhwng 1282 a'r 1540au, Y Waun oedd prif ganolfan arglwyddiaeth Swydd y Waun, a oedd yn cynnwys hen gymydau Cynllaith, Mochnant Is Rhaeadr, a Nanheudwy. Daeth Y Waun yn rhan o'r hen Sir Ddinbych yn y 1540au, ac arosodd yn y sir honno tan 1974. Roedd yng Sir Clwyd rhwng 1974 a 1996, ac mae ym mwrdeistref sirol Wrecsam ers 1996.
Mae priffordd yr A5, un o ffyrdd Thomas Telford, yn mynd trwy'r Waun. Hefyd, mae Dyfrbont y Waun yn cario Camlas Undeb Swydd Amwythig dros Afon Ceiriog.
Cyrhaeddodd y rheilffordd y dref yn 1884, yn cysylltu'r Waun ag Amwythig a Chaer. Fe adeiladwyd y bont rheilffordd yn uwch na'r draphont, oherwydd y cydymgais rhwng y rheilffyrdd a'r camlesydd.
Tan y 1960au, roedd Y Waun yn dref lofaol gyda'r mwyafrif o'r pentrefwyr yn gweithio mewn pyllau glo lleol fel Parc Du, Bryncunallt ac Ifton (dros y ffin yn Llanfarthin).
Mae gorsaf yna ar y llinell Amwythig i Gaer.
-
Pyrth Castell y Waun
[golygu] Enwogion
- Billy Meredith - pêl-droediwr gyda Manchester United a Manchester City ac chwaraewr rhyngwladol i Gymru.
[golygu] Dolenni allanol
Acrefair · Bangor-is-y-coed · Y Bers · Bronington · Brymbo · Brynhyfryd · Bwlchgwyn · Caego · Cefn Mawr · Coedpoeth · Erbistog · Froncysyllte · Garth · Glanrafon · Glyn Ceiriog · Gresffordd · Gwersyllt · Hanmer · Holt · Johnstown · Llai · Llanarmon Dyffryn Ceiriog · Llannerch Banna · Llan-y-pwll · Llechrydau · Marchwiail · Marford · Y Mwynglawdd · Yr Orsedd · Owrtyn · Y Pandy · Pentre Bychan · Pentredŵr · Pen-y-bryn · Penycae · Ponciau · Pontfadog · Rhiwabon · Rhosddu · Rhosllannerchrugog · Rhostyllen · Rhosymedre · Talwrn Green · Trefor · Tregeiriog · Y Waun · Wrecsam · Wrddymbre
