Islwyn Ffowc Elis

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Islwyn Ffowc Elis (Llais Llyfrau 1980–1982)

Nofelydd Cymreig oedd Islwyn Ffowc Elis (17 Tachwedd 192422 Ionawr 2004) yn bennaf, ond roedd hefyd yn fardd, yn llenor, yn weinidog yr efengyl, yn ddarlledwr, yn swyddog ac yn ymgeisydd dros Blaid Cymru, yn ddarlithydd, ac yn athro Cymraeg ail iaith. Derbyniodd ddisgrifiad ohono ef ei hunan fel ‘cyfathrebwr’ mewn cyfweliad teledu ar ‘Rhaglen Nia’.[1]

Bywyd a gwaith[golygu]

Cafodd ei eni yn Wrecsam a'i fagu yn Nglynceiriog, pentref cwbl Gymraeg a Chymreig bryd hynny, tan ei fod yn bump oed, ac wedyn ar fferm y teulu, Aberwiel, ychydig tu allan i'r pentref a dwy filltir o ffin Lloegr. Priodolai Islwyn Ffowc Elis ei sêl dros feithrin y Gymru Gymraeg i’r ffaith y cawsai ei fagu mor agos i ffin Lloegr.[2] Aeth i Ysgol Gynradd Nantyr cyn mynd i Ysgol Uwchradd Llangollen ac wedyn i Goleg Prifysgol Cymru, Bangor. Cofrestrodd fel gwrthwynebwr cydwybodol yn 1943, ar sail heddychiaeth Gristnogol.[3] Dechreuodd lenydda’n 12 oed yn ysgol Llangollen, gan gynhyrchu barddoniaeth, storïau a dramâu. Tra yng Ngholeg Bangor enillodd gadair Eisteddfod Lewis’s Lerpwl. Tra yn y coleg y dechreuodd berfformio a darlledu yng nghwmni ei gyd-fyfyrwyr, gan ysgrifennu caneuon a llunio rifiwiau.[4] Cyn mynd i'r weinidogaeth bu yng ngholegau diwinyddol Aberystwyth a Bangor.

Bu’n weinidog gyda’r Methodistiaid Calfinaidd o 1950 hyd 1956, yn Llanfair Caereinion ac yna Niwbwrch. Tra’n weinidog enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst, 1951, am gyfres o ysgrifau a gyhoeddwyd wedyn gan Wasg Gomer, yn y gyfrol Cyn Oeri'r Gwaed. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Cysgod y Cryman yn 1953. Ar yr un pryd roedd yn magu anfodlonrwydd gyda chrefydd gyfundrefnol, fel y mae’n egluro yn ei ysgrifau 'Lludw’r weinidogaeth', Y Dysgedydd (1952) ac 'Y colledigion', 'Yr hen gyfundrefn annwyl', a 'Machlud a gwawr y fugeiliaeth', Y Drysorfa (1955). At hynny nid oedd yn gysurus yn ei waith.[5] Mewn cyfweliad yn Mabon 1(6) (1973) dywedodd:

"Fe ddaeth yn amlwg yn fuan nad oedd gen i dymheredd gweinidog. Roeddwn i’n rhy anghymdeithasol ac roedd yn gas gen i ymweld â thai i fân siarad; gwersi oedd fy mhregethau yn hytrach na pherorasiynau swnfawr (er gofid i’r saint), ac roedd mynychu pwyllgor a chyfarfod dosbarth a chyfarfod misol a sasiwn yn ing. Mi ddechreuais sgrifennu’n fwy toreithiog nag a wnaethwn i hyd yn oed mewn ysgol a choleg, ond doedd hynny ddim yn lleddfu’r gwewyr."[6]

Ymddiswyddodd o’r weinidogaeth yn 1956 gan fentro ar gyfnod o chwe mlynedd a hanner heb swydd gyflogedig i’w gynnal ef a’i deulu, sef ei wraig Eirlys a’i ferch Siân. Yn hytrach enillai ei damaid o’i gynnyrch llenyddol, o’i waith darlledu ac ambell i gyfnod o waith cynhyrchu i’r BBC.[7] Ef oedd y cyntaf i geisio cynnal ei hunan fel llenor Cymraeg proffesiynol, a phrin yw’r rhai hynny a lwyddodd i efelychu ei gamp ers hynny, o leiaf hyd at ddyddiau twf S4C.[8]

Ers yr ail ryfel byd roedd nofelau Saesneg ysgafn poblogaidd clawr papur, diwylliant America a dulliau newydd cyfathrebu yr ugeinfed ganrif wedi bod yn denu’r ifainc ledled Ewrop, gan gynnwys y Cymry Cymraeg. Roedd Islwyn Ffowc Elis ymhlith y rhai a welent fod yn rhaid creu diwylliant poblogaidd cyfoes rhag i’r ifainc droi eu cefn ar y Gymraeg. Roedd ei nofel gyntaf, Cysgod y Cryman, llawn cymeriadau ifainc byw, yn stori afaelgar oedd yn ymdrin â bywyd a themâu cyfoes. Dyma'r nofel a osododd sail y nofel Gymraeg fodern. Trwy’r nofel hon denwyd darllenwyr ifainc newydd i’r nofel Gymraeg.[9][10] Mae’r ffaith mai Cysgod y Cryman yw’r nofel Gymraeg sydd wedi gwerthu orau yn tystio i'w llwyddiant. Cysgod y Cryman enillodd gystadleuaeth ‘Llyfr y Ganrif’ yn 1999 ar gyfer llyfr Cymraeg mwyaf poblogaidd yr ugeinfed ganrif.[11] Dewiswyd Cysgod y Cryman hefyd yn un o ddeg o ‘Lyfrau’r Ganrif’ yn 2007 mewn ymgyrch a drefnwyd gan S4C.

Yr oedd peth o’i gynnyrch ysgafnaf hefyd wedi tynnu llid rhai beirniaid llenyddol yn ei ben, yn enwedig Y Gromlech yn yr Haidd ac Eira Mawr a ysgrifennodd yn ystod ei ail gyfnod o lenydda llawn amser rhwng 1971 a 1975.[9][10][12] Yn ogystal â nofelau, ysgrifennai hefyd ganeuon a sgriptiau radio a theledu, i gyd yn cyfrannu at ddiwylliant poblogaidd. Ymhlith ei sgriptiau roedd Rhai yn Fugeiliaid (1962), sef y ddrama gyfres Gymraeg gyntaf ar gyfer y teledu.[13] Cynhyrchodd lenyddiaeth heblaw am nofelau, yn gyfieithiadau megis Efengyl Mathew: trosiad i Gymraeg diweddar (1961), yn ysgrifau, yn llyfrau academaidd, gan olygu cyfrolau eraill megis Edward Tegla Davies: Llenor a Phroffwyd (1956).

Yr un sêl dros y Gymru Gymraeg a lywiau ei gynnyrch llenyddol a ysgogai ei waith dros Blaid Cymru. Bu’n ymgeisydd seneddol ym Maldwyn ym 1962 a 1964. Ef oedd swyddog cyhoeddiadau Plaid Cymru adeg Is-etholiad Caerfyrddin, 1966. Ef oedd yn gyfrifol am lenyddiaeth a chyhoeddusrwydd Plaid Cymru, gan gynllunio strategaeth gyhoeddusrwydd ymwthgar i Blaid Cymru a ddefnyddiwyd am y tro cyntaf adeg ymgyrch Caerfyrddin.[14]

Yn ogystal â bod ei lenyddiaeth yn ysbrydoli eraill i fynd ati i lenydda bu hefyd yn hybu llenorion ifainc drwy ei waith fel athro. Bu’n athro ar gyrsiau ar gyfer darpar-awduron. Bu’n Ddarlithydd ac yna’n Uwch-ddarlithydd yn Adran y Gymraeg yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin (19631968) ac eto yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan (19751990), lle bu hefyd yn Ddarllenydd er 1984. Bu’n Gyfarwyddwr Cyfieithu a chynhyrchu i’r Cyngor Llyfrau Cymraeg o 19681971. Cyfrannodd hefyd at y gwaith o ddysgu Cymraeg fel ail iaith. Bu’n cynnal cyrsiau Cymraeg fel ail iaith yng Ngholeg Bangor o 19591963. Hefyd yn yr un cyfnod bu’n paratoi deunydd cyrsiau ar gyfer dysgwyr, ar gyfer y radio ac ar gyfer Coleg Harlech a’r National Extension College.[15]

Cadair Islwyn Ffowc Elis yng Nghastell Brychan, pencadlys Cyngor Llyfrau Cymru

"Y gŵr a lusgodd y nofel Gymraeg i'r ugeinfed ganrif" oedd y disgrifiad ohono yn Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.

Cyflwynodd teulu Ffowc Elis y gadair a enillodd yn Eisteddfod Lewis's Lerpwl i Gyngor Llyfrau Cymru – cadair yr eisteddai'r awdur arni i ysgrifennu nifer o'i nofelau, gan gynnwys Cysgod y Cryman.

Prif weithiau[golygu]

Awdur[golygu]

Cyfieithydd[golygu]

Naddion - Detholion o Ryddiaith (llyfr).jpg
  • Efengyl Mathew: trosiad i Gymraeg diweddar (1961)
  • Noson y Ddawns (1965) - o'r Norwyeg, gyda Dilys Price

Golygydd[golygu]

  • Edward Tegla Davies: Llenor a Phroffwyd (1956, Gwasg y Brython)
  • Storïau'r Deffro (1959)
  • Llais o'r Dyffryn: casgliad o gerddi William Griffiths Glynceiriog (1964)
  • Twenty-five Welsh Short Stories (1971, Gwasg Prifysgol Rhydychen) - cyd-olygydd gyda Gwyn Jones

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Chapman, Robin Islwyn Ffowc Elis yn y gyfres Writers of Wales (Gwasg Prifysgol Cymru, 2000)
  • Chapman, Robin Rhywfaint o Anfarwoldeb (Gwasg Gomer, 2003)
  • George, Delyth Islwyn Ffowc Elis yng nghyfres Llên y Llenor (Gwasg Pantycelyn, 1990)
  • Llwyd, Rheinallt (gol.) Bro a Bywyd Islwyn Ffowc Elis (Cyhoeddiadau Barddas, 2007)
  • 'Islwyn Ffowc Elis yn marw' - gwefan y BBC, adalwyd 31 Mai 2008

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Llwyd t. 3
  2. ’Y rhaid sydd arnaf’ yn ‘‘Fy Nghymru’’ (1961)
  3. Chapman, Rhywfaint o Anfarwoldeb
  4. Llwyd tt. 33–37
  5. Llwyd tt. 45–51
  6. Cyfweliad ag Islwyn Ffowc Elis ym Mabon 1(6) (1973) wedi ei ddyfynnu yn Bro a Bywyd Islwyn Ffowc Elis (t. 44)
  7. Llwyd t 57
  8. 'Talu teyrnged i Islwyn Ffowc', gwefan y BBC, adalwyd 31 Mai 2008
  9. 9.0 9.1 Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru Gol. Meic Stephens (Gwasg Prifysgol Cymru 1986)
  10. 10.0 10.1 'Islwyn Ffowc Elis', gwefan y BBC (adalwyd 31 Mai 2008)
  11. Llwyd t. 123
  12. Llwyd t. 90
  13. Llwyd tt 93, 105
  14. Llwyd tt. 72–85
  15. Llwyd t. 68