Llangollen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 52°58′12″N 3°10′12″W / 52.970°N 3.170°W / 52.970; -3.170

Llangollen
Llangollen roofs.jpg
Llechi llwydion a brics coch y dre...
Llangollen is located in Sir Ddinbych
Llangollen

 Llangollen yn: Sir Ddinbych
Poblogaeth 3,412 (2001)
Cyfeirnod grid yr AO SJ215415
Cymuned Llangollen
Prif ardal Sir Ddinbych
Sir seremonïol Clwyd
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost LLANGOLLEN
Rhanbarth cod post LL20
Cod deialu 01978
Yr Heddlu Gogledd Cymru
Tân Gogledd Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU De Clwyd
Cynulliad Cymru De Clwyd
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Sir Ddinbych
Yr afon wedi'i rhewi a Gorsaf Reilffordd Llangollen ar y dde.

Mae Llangollen yn dref yn Sir Ddinbych, sy'n enwog am ei phont hynafol a'i hadeiladau deniadol. Saif ar lan Afon Dyfrdwy. Mae priffordd yr A5 yn mynd drwy Langollen. Mae Caerdydd 165 km i ffwrdd o Llangollen ac mae Llundain yn 264 km. Y ddinas agosaf ydy Caer sy'n 31.4 km i ffwrdd.

Mae'n enwog am ei safle ar lan Afon Dyfrdwy a'r Eisteddfod Ryngwladol a gynhelir yno'n flynyddol ac sy'n denu cantorion a dawnswyr o bob rhan o'r byd.

Cymerodd yr ysgol uwchradd, sef Ysgol Dinas Brân ei henw o'r castell lleol .

Cynnwys

Hanes [golygu]

Enwir y dref ar ôl Sant Collen (6ed ganrif?). Cyrhaeddodd Sant Collen y dref mewn cwrwgl, medd traddodiad. Mae enw'r sant i'w gael mewn lleoedd eraill, fel Sant Collen (yng Nghernyw) a Langolen (tref yn Llydaw).

Yn y rhigwm Saesneg o ddiwedd y 18fed ganrif, mae pont Llangollen yn un o Saith Rhyfeddod Cymru. Adeiladwyd y bont enwog dros yr Afon Dyfrdwy tua 1345 gan John Trevor, Esgob Llanelwy o 1352 i 1357.

Uwchlaw'r dref mae Plas Newydd, lle bu Merched Llangollen yn byw. Dihangodd Eleanor Butler (1739-1829) a Sarah Ponsonby (1755-1831) o deuluoedd aristocrataidd Seisnig yn Iwerddon ac roedden nhw'n byw yn y tŷ am oddeutu hanner canrif.

Yr hen blwyf [golygu]

Yn hen blwyf Llangollen roedd tri thraean:

  • Llangollen Traean: yn cynnwys trefgorddau Bachau, Cysylltau, Llangollen Abad, Llangollen Fawr, Llangollen Fechan, Feifod, Pengwern a Rhisgog.
  • Trefor Traean: yn cynnwys trefgorddau Cilmediw, Dinbren, Eglwysegl, Trefor Isaf a Threfor Uchaf.
  • Glyn Traean: yn cynnwys trefgorddau Cilcochwyn, Crogeniddon, Crogenwladus, Erwallo, Hafodgynfor, Nantygwryd, Pennant a Thalygarth.

Roedd Llangollen yn yr hen Sir Ddinbych tan 1974, yn Sir Clwyd rhwng 1974 a 1996, ac mae yn y Sir Ddinbych newydd ers 1996.

Pobl o Langollen [golygu]

Eisteddfod Genedlaethol [golygu]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Llangollen ym 1908. Am wybodaeth bellach gweler:

Caneuon [golygu]

  • Llangollen Market, traddodiadol
  • Ladies of Llangollen, Ian Chesterman
  • Pastai Fawr Llangollen, Arfon Gwilym

Oriel [golygu]

Atyniadau yn y cylch [golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:

Gweler hefyd [golygu]


CymruDinbych.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato