Castell Dinas Brân
Mae Castell Dinas Brân yn fryngaer (uchder 310m) ac yn gastell canoloesol ger Llangollen, Sir Ddinbych.
Saif y castell ar gopa mynydd uwchlaw dyffryn Afon Dyfrdwy (maint yr safle: tua 1.5ha). Clawdd a ffos wedi eu hadeiladu yn Oes yr Haearn yw'r unig olion sydd i'w gweld heddiw. Mae'n bosibl bod adeiladau pren yn y bryngaer yn yr 8fed ganrif, ond does dim olion ohonynt heddiw. Mae yna ddamcaniaeth fod Eliseg yn meddianu Castell Dinas Brân yn y cyfnod hwnnw.
Adeiladodd tywysogion Powys Fadog y castell tua diwedd y 1260au. Cafodd ei losgu gan y Cymry yn ystod y rhyfeloedd rhwng Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru ac Edward I, brenin Lloegr. Cafodd y castell ei gipio gan Henry de Lacey, iarll Lincoln, yn 1277. Bwriadai Henry de Lacey ailadeiladu'r castell, ond doedd Edward ddim yn cytuno.
Ym 1282, yn ystod ail ymgyrch Edward I i Gymru, cafodd Castell Dinas Brân ei feddiannu gan Dafydd ap Gruffydd, brawd Llywelyn. Yn ôl traddodiad, yn 1402 cafodd y castell ei feddiannu gan Iarll Arundel; ymgeisodd Owain Glyndŵr ei gipio, ond roedd ei ymdrechion yn aflwyddiannus.
Yn ôl rhai ysgrifenwyr ar y traddodiad Arthuraidd, Dinas Brân yw'r Castell Corbenic (Corbin-Vicus) y sonnir amdano yn y chwedlau am y Greal.
Dolenni allanol[golygu]
Gweler hefyd[golygu]
| Cestyll Tywysogion Powys | |
|---|---|
| Bodyddon | Caereinion | Crogen | Cymer | Dinas Brân | Mathrafal | Tafolwern | Y Trallwng | |