Arfon Gwilym

Oddi ar Wicipedia
Arfon Gwilym
Ganwyd1 Medi 1950 Edit this on Wikidata
Rhydymain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcanwr Edit this on Wikidata
Arfon Gwilym, yng Nŵyl Tegeingl, 2010 fel aelod o'r Glerorfa.

Canwr gwerin, baledwr, cyhoeddwr a cherddor Cymreig yw Arfon Gwilym (ganwyd Medi 1950), sy'n enedigol o Rydymain, rhwng Dolgellau a'r Bala, Gwynedd. Mae'n enwog hefyd fel ymgyrchydd iaith[1] ac am ei waith yn hybu canu Plygain a cherdd dant dros y blynyddoedd.

Daeth i'r amlwg yn y noson honno ym Mhafilwn Corwen "Tafodau Tân", ble canodd ddiweddariad o'r gân draddodiadol Marged Fwyn Ferch Ifan yn ystod Eisteddfod Rhuthun yn 1973.[2]

Bu'n ohebydd gyda phapur newydd Y Cymro am dros ddeg mlynedd ac mae wedi ymwreiddio ers hynny yn ardal Meifod a Llanfyllin, Powys.

Mae'n frawd i'r actor Dyfan Roberts.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Disgograffeg[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Saesneg Walesonline
  2. "Recordiau Sain". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-09-08. Cyrchwyd 2012-11-27.