Diserth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lôn yn Niserth.
Eglwys Diserth.

Pentref canolig ei faint a chymuned yn Sir Ddinbych, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Diserth[1][2] (ffurf Saesneg: Dyserth). Poblogaeth 2566 (Cyfrifiad 2001). Mae'n gorwedd ychydig o filltiroedd i'r de o Brestatyn ac i'r dwyrain o dref Rhuddlan.

Ffotograff a gymerwyd rhwng 1890 a 1900

Yn yr Oesoedd Canol, Diserth oedd canolfan cwmwd Prestatyn, yng nghantref Tegeingl. Yma, ar gyrion y pentref presennol, roedd plasdy Botryddan, canolfan y Conwyaid, un o deuluoedd uchelwrol grymusaf y Gogledd. Yn ôl yr hynafiaethydd Edward Lhuyd, claddwyd y bardd ac ysgolhaig Dafydd Ddu o Hiraddug (bu farw tua 1370) yn eglwys Diserth.

Ger y pentref ceir olion hen chwareli a rhaeadrau, ac mae bryn deniadol Moel Hiraddug yn y cyffiniau. Gorwedd ar yr A5151 ac mae rhan o Lwybr y Gogledd yn rhedeg heibio i'r pentref.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Diserth (pob oed) (2,269)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Diserth) (444)
  
20.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Diserth) (1369)
  
60.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Diserth) (344)
  
35.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; Cyhoeddwyd 2008; tud. 295
  2. Dictionary of Place-names in Wales; Gwasg Gomer; Cyhoeddwyd 2007; tud 125
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.