Gwyddelwern

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tŷ Mawr, Gwyddelwern

Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Ddinbych yw Gwyddelwern; arferai fod yn Edeyrnion ac yn Sir Feirionnydd. Saif y pentref ar y briffordd A494 rhwng Corwen a Bryn Saith Marchog, rhyw ddwy filltir i'r gogledd o Gorwen. Cysegrwyd yr eglwys i Sant Beuno, a fu'n byw yma am gyfnod, ac mae'r fynwent gron yn awgrymu ei bod yn sefydliad hynafol.

Roedd Arglwyddiaeth Gwyddelwern yn rhan o Powys Fadog, ac yn 1400 cofnodir bod yr arglwyddiaeth yn cael ei dal gan Tudur ap Gruffudd Fychan, brawd iau Owain Glyndŵr. Roedd dwy chwarel ger y pentref.

Gwyddelwern oedd yr orsaf reilffordd gyntaf yn Nyffryn Edeyrnion pan agorwyd hi yn 1864 gan reilffordd Dinbych, Rhuthun a Chorwen. Caeodd y rheilffordd i deithwyr yn 1953 ac i nwyddau yn 1957.

Cyfrifiad 2011 [golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Gwyddelwern (pob oed) (500)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Gwyddelwern) (295)
  
60.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Gwyddelwern) (325)
  
65%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sy'n ddiwaith (Gwyddelwern) (55)
  
25.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Cyfeiriadau [golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.