Bryn Saith Marchog

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bryn Saith Marchog
Y pentre dan fantell o eira, a Moelydd Clwyd yn y cefdir

Pentref bach gwledig yn rhan deheuol Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych, yw Bryn Saith Marchog (neu Brynsaithmarchog) - (cyfeiriad grid SJ078505). Saif ar lan ddwyreiniol Afon Clwyd gyferbyn â phentref Derwen, tua 5 milltir i'r gogledd o Gorwen. Mae ar yr A494.

Cyfeirir at Fryn Saith Marchog yng Nghainc Gyntaf y Mabinogi, chwedl Branwen ferch Llŷr. Cyfeiriad onomastig i esbonio enw lle ydyw. Pan â Bendigeidfran i Iwerddon mae'n gadael saith tywysog a'u saith marchog i warchod Ynys Prydain. Nid enwir y marchogion ond ceir cyfeiriad at y lle:

Yn Edeirn[i]on yd edewit y gwyr hynny, ac o achaws hynny y dodet Seith Marchawc ar y dref.[1]

Mae Ifor Williams yn nodi, gan ddilyn awgrym yr Athro Joseph Loth, fod 'seith/saith' yn gallu golygu "sant" mewn Cymraeg Canol. Mae'n bosibl felly mai "Bryn Sant Marchog" a olygid yn wreiddiol (ceir enghreifftiau o'r enw 'Sadwrn Farchog' am Sant Sadwrn hefyd).[2]

[golygu] Cyfeiriadau

  1. Ifor Williams (gol.), Pedair Cainc y Mabinogi (Caerdydd, 1930). tud. 38.
  2. Pedair Cainc y Mabinogi, tud. 191.
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer