Efenechtyd
Pentref bychan, plwyf a chymuned yn Sir Ddinbych yw Efenechtyd (SJ1155), weithiau Efenechdyd. Saif ar ffordd gefn ychydig i'r de o dref Rhuthun.
Credir fod yr enw yn dod o "mynechdid", yn awgrymu cysylltiad â mynachdy. Y sillafiad yn 1254 oedd Y Fenechtid; roedd mynachty yma hyd at y 16eg ganrif, yn deillio o Abaty Glyn y Groes, pan drowyd yr adeilad yn fferm laeth.
Cysegrir yr eglwys i Sant Mihangel a'r Holl Angylion, ac mae'r bedyddfaen pres oddi mewn iddi yn ddiddorol. Gerllaw mae Tŷ Brith, cartref y bardd ac athro barddol Simwnt Fychan (c. 1530 - 1606).
Treuliodd yr hynafiaethydd a chasglwr llên gwerin Gymreig, Elias Owen (1833-1899) rhan olaf ei oes yn rheithor Efenechtydd.
Aberchwiler · Betws Gwerful Goch · Bodelwyddan · Bodfari · Bontuchel · Bryn Saith Marchog · Bryneglwys · Carrog · Cefn Meiriadog · Clocaenog · Corwen · Cwm · Cyffylliog · Cynwyd · Derwen · Dinbych · Diserth · Y Ddwyryd · Efenechtyd · Eryrys · Four Crosses · Gallt Melyd · Gellifor · Glyndyfrdwy · Graeanrhyd · Graigfechan · Gwyddelwern · Henllan · Loggerheads · Llanarmon-yn-Iâl · Llanbedr Dyffryn Clwyd · Llandegla-yn-Iâl · Llandrillo · Llandyrnog · Llandysilio-yn-Iâl · Llanelidan · Llanelwy · Llanfair Dyffryn Clwyd · Llanferres · Llanfwrog · Llangollen · Llangwyfan · Llangynhafal · Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch · Llanynys · Maeshafn · Melin y Wig · Nantglyn · Pandy'r Capel · Pentrecelyn · Pentre Dŵr · Prestatyn · Prion · Rhewl (1) · Rhewl (2) · Rhuallt · Rhuddlan · Rhuthun · Y Rhyl · Saron · Sodom · Tafarn-y-Gelyn · Trefnant · Tremeirchion