Ywen
Oddi ar Wicipedia
| Ywen | |
|---|---|
| Ywen | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Rhaniad: | Pinoophyta |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Pinales |
| Teulu: | Taxaceae |
| Genws: | Taxus |
| Rhywogaeth: | T. baccata |
| Enw deuenwol | |
| Taxus baccata L. |
|
Coeden fythwyrdd yw'r Ywen (Taxus baccata). Mae'n frodor o Ewrop, Gogledd Affrica a gogledd Iran.
Mae'r ywen yn goeden sy'n tyfu'n araf ac yn byw i gryn oedran. Gall gyrraedd uchder o 12–20 m. Ceir coed gwrywaidd a choed benywaidd, ac mae'r hedyn tu mewn i'r aeron coch yn wenwynig. Ceir nifer sylweddol o goed yw yng Nghymru, yn bennaf mewn mynwentydd. Arferid defnyddio pren ywen ar gyfer y bwa hir.
Coed yw nodedig [golygu]
- Ywen Llangernyw; credir ei bod tua 2,000 o flynyddoedd oed.
- Roedd coed yw eglwys Owrtyn yn un o Saith Rhyfeddod Cymru
- Coed yw Llanddeiniolen, Gwynedd, a anfarwolwyd gan gerdd W.J. Gruffydd, Ywen Llanddeiniolen
- Ywen Llanafan Fawr, Powys; credir ei bod tua 2,000 o flynyddoedd oed.