Prestatyn
Cyfesurynnau: 53°19′52″N 3°24′18″W / 53.331°N 3.405°W
| Prestatyn | |
Awyrlun o'r dref |
|
|
|
|
| Poblogaeth | 18,496 (2001) |
|---|---|
| Cyfeirnod grid yr AO | SJ065825 |
| - Caerdydd | 171.9m |
| - Llundain | 233.9m |
| Cymuned | Prestatyn |
| Prif ardal | Sir Ddinbych |
| Sir seremonïol | Clwyd |
| Gwlad | Cymru |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | PRESTATYN |
| Rhanbarth cod post | LL19 |
| Cod deialu | 01745 |
| Yr Heddlu | Gogledd Cymru |
| Tân | Gogledd Cymru |
| Ambiwlans | Cymru |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Cymru |
| Senedd y DU | Dyffryn Clwyd |
| Cynulliad Cymru | Dyffryn Clwyd |
| Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Sir Ddinbych | |
- Erthygl am y dref yw hon. Am y cwmwd canoloesol o'r un enw gweler Prestatyn (cwmwd).
Mae Prestatyn yn dref ar arfordir gogleddol Sir Ddinbych, gogledd-ddwyrain Cymru. Cyn ail-drefnu llywodraeth leol ym 1974, roedd hi'n rhan o Sir y Fflint. Mae gan y dref orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Mae Llwybr y Gogledd yn cychwyn/gorffen yn y dref.
Lleolir Prestatyn tua 4 milltir i'r dwyrain o'r Rhyl wrth droed y cyntaf o Fryniau Clwyd. Mae'r pentrefi cyfagos yn cynnwys Talacre a'r Gronant i'r dwyrain ac Allt Melyd a Diserth i'r de. Mae Caerdydd 206.3 km i ffwrdd o Prestatyn ac mae Llundain yn 301.7 km. Y ddinas agosaf ydy Lerpwl sy'n 32.2 km i ffwrdd.
Mae Prestatyn yn dref glan môr poblogaidd gyda thraeth braf sy'n estyniad o draeth enwog Y Rhyl. Gorwedd canol y dref fechan tua hanner milltir i mewn o'r traeth. Erbyn heddiw mae nifer o stadau tai newydd yno ac mae canran uchel o'r boblogaeth yn bobl wedi ymddeol.
Cynnwys |
Hanes [golygu]
Ceir olion "ffatri" bwyeill carreg o Oes Newydd y Cerrig ar lethrau gorllewinol Cwm Graiglwyd, i'r dwyrain o gopa'r Penmaen-mawr. Ceir tystiolaeth fod bwyeill gwenithfaen o'r Graiglwyd yn cael eu allforio ar raddfa eang 5,000 o flynyddoedd yn ôl; mae enghreifftiau wedi'u darganfod mor bell i ffwrdd ag arfordir de Lloegr. Credir eu bod yn cael eu cludo i safle ger Prestatyn i gael eu gweithio cyn eu hallforio.
Bu'r Rhufeiniaid yn weithgar yn ardal Prestatyn. Roedd ganddynt wersyll yno ar gyfer mwyncloddio am blwm. Gellir gweld rhai gwrthrychau o'r cyfnod Rhufeinig yn y llyfrgell leol. Roedd Clawdd Offa yn cychwyn ger safle Prestatyn, ond er bod Llwybr Clawdd Offa yn cychywn/gorffen yno nid oes llawer o'r clawdd ei hun i'w weld.
Bu'r llecyn ym meddiant Mercia am gyfnod yn yr Oesoedd Canol Cynnar, ac mae'r enw Prestatyn ("Tref yr Offeiriad") yn dyddio o'r dyddiau hynny. Yn yr Oesoedd Canol rhoddodd ei enw i gwmwd Prestatyn, rhan o gantref Tegeingl. Codwyd Castell Prestatyn gan un o arglwyddi Normanaidd y Mers yn y 12fed ganrif ond cafodd ei gipio a'i ddinistrio gan Owain Gwynedd.
Ond arosodd Prestatyn yn bentref bychan dinod tan ganol y 19eg ganrif a datblygiad twristiaeth yn y rhan yma o ogledd Cymru gyda dyfodiad y rheilffordd.
Enwogion [golygu]
- Mike Peters - canwr pop
Atyniadau [golygu]
- Traeth y Ffrith, i'r gogledd-orlewin o'r dre
- Y Parlwr Du
- Graig Fawr, y cyntaf o Fryniau Clwyd
Chwaraeon [golygu]
Aberchwiler · Betws Gwerful Goch · Bodelwyddan · Bodfari · Bontuchel · Bryn Saith Marchog · Bryneglwys · Carrog · Cefn Meiriadog · Clocaenog · Corwen · Cwm · Cyffylliog · Cynwyd · Derwen · Dinbych · Diserth · Y Ddwyryd · Efenechtyd · Eryrys · Four Crosses · Gallt Melyd · Gellifor · Glyndyfrdwy · Graeanrhyd · Graigfechan · Gwyddelwern · Henllan · Loggerheads · Llanarmon-yn-Iâl · Llanbedr Dyffryn Clwyd · Llandegla-yn-Iâl · Llandrillo · Llandyrnog · Llandysilio-yn-Iâl · Llanelidan · Llanelwy · Llanfair Dyffryn Clwyd · Llanferres · Llanfwrog · Llangollen · Llangwyfan · Llangynhafal · Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch · Llanynys · Maeshafn · Melin y Wig · Nantglyn · Pandy'r Capel · Pentrecelyn · Pentre Dŵr · Prestatyn · Prion · Rhewl (1) · Rhewl (2) · Rhuallt · Rhuddlan · Rhuthun · Y Rhyl · Saron · Sodom · Tafarn-y-Gelyn · Trefnant · Tremeirchion