Bodfari

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 53°13′11″N 3°21′35″W / 53.219636°N 3.359624°W / 53.219636; -3.359624

Bodfari
Llwybr Clawdd Offa ym Modfari.
Bodfari is located in Sir Ddinbych
Bodfari

Bodfari Sir Ddinbych
Cyfeirnod grid yr AO SJ07SE80
    - Caerdydd 120.4 mi (193.8 km)  
    - Llundain 180.5 mi (290.5 km)  
Cymuned Bodfari
Sir Sir Ddinbych
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost Dinbych
Yr Heddlu Gogledd Cymru
Tân Gogledd Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Dyffryn Clwyd
Cynulliad Cymru Dyffryn Clwyd
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Sir Ddinbych

Pentref bychan a chymuned wrth droed Bryniau Clwyd yn Sir Ddinbych yw Bodfari. Fe'i lleolir tua 2 filltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Dinbych, Dyffryn Clwyd. I'r dwyrain o'r pentref ceir bryn isel Moel y Gaer a'i fryngaer a bryn uwch Moel y Parc. Mae Bodfari yn gorwedd ar y lôn A541 o Ddinbych i Gaerwys trwy fwlch ym Mryniau Clwyd. Ar un adeg roedd gan y pentref orsaf reilffordd ar yr hen reilffordd rhwng Dinbych a'r Wyddgrug.

Cynrychiolir Bodfari yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Sandy Mewies (Y Blaid Lafur) a'r Aelod Seneddol yw Chris Ruane (Y Blaid Lafur).[1][2]

Rhed Llwybr Clawdd Offa trwy'r pentref. I'r gogledd ceir bryngaer Moel y Gaer sy'n dyddio o Oes yr Haearn.

Pobl o Fodfari[golygu]

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Bodfari (pob oed) (327)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Bodfari) (68)
  
21.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Bodfari) (168)
  
51.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Bodfari) (53)
  
34.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.