Caerwys

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Caerwys
Sir y Fflint
Image:CymruFflint.png
Image:Smotyn_Coch.gif

Tref fechan yn Sir y Fflint, 8 km (5 milltir) i'r de-orllewin o Dreffynnon, yw Caerwys (Cyfeirnodau OS: SJ128729). Yng Nghyfrifiad 2001 roedd y boblogaeth yn 1,315.

[golygu] Hanes

Credai rhai archaeolegwyr a hynafiaethwyr fod y dref yn sefyll ar safle hen gaer Rufeinig Varis, ond erbyn heddiw credir mai ger Llanelwy oedd y safle. Mae enw'r dref yn golygu "caer y gwysiau", ac efallai'n deillio o'r ffaith fod llys yn cael ei chynnal yno hyd y 16eg ganrif.

Cynhaliwyd dwy eisteddfod bwysig yng Nghaerwys yn 1523 a 1567 i bennu rheolau Cerdd Dafod a Cherdd Dant ac i roi trefn ar feirdd a chantorion. Roedd nifer o feirdd gorau'r cyfnod, fel Tudur Aled, Simwnt Fychan a Gruffudd Hiraethog, yn bresennol.

Ganed y llenor a diwinydd Methodistaidd Thomas Jones o Ddinbych ym Mhenucha, ger Caerwys, ym 1756.

Mae cysylltiad agos rhwng Caerwys â Philadelphia. Hwyliodd meddyg lleol, Thomas Wynne, mewn llong o'r enw Welcome yn 1682 gyda William Penn. Roedd Wynne yn un o sefydlwyr Philadelphia a daeth yn gadeirydd (neu 'Siaradwr') cyntaf y cynulliad cenedlaethol yno yn ogystal a bod yn farnwr rhanbarthol. Seiliwyd cynllun stryd gwreiddiol Philadelphia ar Gaerwys.[1] Mae enwau Cymraeg i'w gweld ym mhobman yno, ac mae llawer o'r adeiladau yn gopiau o adeiladau a geir yng Nghaerwys.[2]

Caerwys

[golygu] Yr eglwys

Er nad yw'r eglwys bresenol yn hen iawn nid yw heb ddiddordeb. Fe'i cysegrir i Fihangel Sant. Mae'r bedyddfaen yn dyddio o 1661 a cheir sgriniau pren hynafol yng nghapel y gogledd. Un o'r creiriau mwyaf diddorol yw clawr arch garreg ac arno ffigwr cerfiedig gwraig, sydd efallai i'w dyddio i'r 13eg ganrif. Yn ôl traddodiad lleol, claddwyd Elizabeth Ferrers, sef gwraig i Dafydd ap Gruffudd, yn yr eglwys.

[golygu] Cyfeiriadau

Offer personol
Ieithoedd eraill