Tafarn-y-Gelyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref bychan iawn yn nwyrain canolbarth Sir Ddinbych, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Tafarn-y-Gelyn. Fe'i lleolir ar ffordd yr A494 tua hanner ffordd rhwng Yr Wyddgrug i'r dwyrain a Rhuthun i'r gorllewin.

I'r gorllewin o Dafarn-y-Gelyn mae hen lôn yn codi i groesi Bwlch Pen Barras (551m) ym Mryniau Clwyd, rhwng Moel Famau a Moel Fenlli. Dyma'r hen lôn rhwng Dyffryn Clwyd a'r Wyddgrug cyn i'r A494 gael ei adeiladau. Mae'n dod allan yn Llanbedr Dyffryn Clwyd.


CymruDinbych.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato