Llandysilio-yn-Iâl

Oddi ar Wicipedia
Llandysilio-yn-Iâl
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth421 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,797.76 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.983°N 3.203°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000168 Edit this on Wikidata
Cod postLL20 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auKen Skates (Llafur)
AS/auSimon Baynes (Ceidwadwyr)
Map
Am lleoedd eraill o'r enw "Llandysilio", gweler Llandysilio (gwahaniaethu).

Pentref bychan, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Llandysilio-yn-Iâl("Cymorth – Sain" ynganiad ) (hefyd: Llantysilio ar fapiau Saesneg). Saif i'r gogledd o dref Llangollen, o gwmpas y briffordd A452 ac yn ymestyn i gynnwys Bwlch yr Oernant. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 472.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Simon Baynes (Ceidwadwyr).[1][2]

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae'r gymuned yn cynnwys nifer o hynafiaethau, yn enwedig Croes Eliseg, colofn sy'n coffhau Elisedd ap Gwylog (bu farw c. 755), brenin Powys. Codwyd y golofn gan or-ŵyr Elisedd, Cyngen ap Cadell. Gerllaw mae gweddillion Abaty Glyn-y-groes. Ym mynwent Eglwys Sant Tysilio y claddwyd y gwleidydd Rhyddfrydol George Osborne Morgan (1826 - 1897).

Y pentref, gyda hen reithordy Llandynan yn y canol, ar y chwith i'r sgubor

Mae olion hen chwareli llechi o fewn tafliad carreg i'r pentref hefyd. Moel y Gamelin ydy enw'r mynydd y tu ôl i'r pentref, rhan o gadwyn isel a elwir yn Fynydd Llandysilio. Ceir bryngaer Moel y Gaer hefyd.

Eglwys Sant Tysilio[golygu | golygu cod]

Mae Eglwys Sant Tysilio yn adeilad cofrestredig Gradd II* oherwydd fod ynddi llawer o drawstia a tho ac waliau sy'n dyddio'n ôl i'r canoloesoedd. Mae un o'r ffenestri lliw hefyd cyn hyned (15g) - llun melyn o Sant Iago.

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014