Carrog
Pentref bychan yn ne Sir Ddinbych, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Carrog. Gorwedd ar lan Afon Dyfrdwy tua 2 filtir i'r dwyrain o Gorwen, ar y ffordd i gyfeiriad Llangollen (cyfeiriad grid SJ114437). Cyfeirwyd at y pentref fel Llansantffraid-Glyn Dyfrdwy hyd troad yr 20fed ganrif, gan y safai o fewn plwyf hynafol Llansantffraid Glyndyfrdwy.[1] Daw ei henw cyfoes o Orsaf Rheilffordd Carrog yr ochr arall i'r afon Dyfrdwy, ac enwyd hwnnw yn ei drp ar ôl ystad Carrog gerllaw.
Mae'r pentref yn gorwedd ar groesffordd ar y B543 ar lan ogleddol Afon Dyfrdwy. Mae Pont Carrog yn croesi'r afon yma i gysylltu'r pentref â ffordd yr A5 yr ochr draw. Llifa Afon Morynion (Afon Morwynion) trwy'r pentref i ymuno yn Afon Dyfrdwy. Yn y bryniau tua milltir i'r gorllewin, ceir safle hen fryngaer Caer Drewyn. Mae Gorsaf Carrog yn ffurfio rhan o Reilffordd Llangollen erbyn hyn.
Mae ysgol gynradd gymunedol Ysgol Carrog dros 100 mlwydd oed.
Gefeillwyd Carrog â phentref Plouyé, Llydaw yn 2005.[2]
[golygu] Trigolion o nôd
- Peredur Lynch, llenor ac athro Cymreig
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ Take the Carrog Village Trail. Adalwyd ar 8 Awst 2011.
- ↑ CARROG - PLOUYÉ TWINNING VISIT. Y Bont (Medi 2005).
Aberchwiler · Betws Gwerful Goch · Bodelwyddan · Bodfari · Bontuchel · Bryn Saith Marchog · Bryneglwys · Carrog · Cefn Meiriadog · Clocaenog · Corwen · Cwm · Cyffylliog · Cynwyd · Derwen · Dinbych · Diserth · Y Ddwyryd · Efenechtyd · Eryrys · Four Crosses · Gallt Melyd · Gellifor · Glyndyfrdwy · Graeanrhyd · Graigfechan · Gwyddelwern · Henllan · Loggerheads · Llanarmon-yn-Iâl · Llanbedr Dyffryn Clwyd · Llandegla-yn-Iâl · Llandrillo · Llandyrnog · Llandysilio-yn-Iâl · Llanelidan · Llanelwy · Llanfair Dyffryn Clwyd · Llanferres · Llanfwrog · Llangollen · Llangwyfan · Llangynhafal · Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch · Llanynys · Maeshafn · Melin y Wig · Nantglyn · Pandy'r Capel · Pentrecelyn · Pentre Dŵr · Prestatyn · Prion · Rhewl (1) · Rhewl (2) · Rhuallt · Rhuddlan · Rhuthun · Y Rhyl · Saron · Sodom · Tafarn-y-Gelyn · Trefnant · Tremeirchion