Yr Wyddgrug
| Yr Wyddgrug Sir y Fflint |
|
Tref yn Sir y Fflint yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw'r Wyddgrug. Mae hi'n gorwedd ar groesffordd hanner ffordd rhwng Rhuthun i'r gorllewin a Chaer i'r dwyrain. Mae'r A494 yn pasio'r dref i'r dwyrain. Tu ôl i'r Wyddgrug mae'r tir yn codi i lethrau coediog Bryniau Clwyd. Ystyr yr enw lle yw "bryncyn neu dwmpath uchel" (yr un ystyr ag enw Saesneg y dref, Mold: o'r Ffrangeg Normanaidd Monthault sy'n golygu "bryn uchel").
Cynnwys |
Hanes [golygu]
Yn ôl traddodiad, ymladdwyd Brwydr Maes Garmon ar lecyn tua milltir i'r gorllewin o'r dref bresennol yn OC 430. Enillodd y Cymry y dydd, dan arweiniad Sant Garmon, yn erbyn eu gelynion paganaidd.
Cynhelid llys ar gylch Llywelyn ap Gruffudd yn y Wyddgrug ar 22 Gorffennaf, 1273. Roedd gan y Wyddgrug ei gastell yn yr Oesoedd Canol a nodir ei safle gan Fryn y Beili, sy'n ardd gyhoeddus bellach. Ym 1245, cafodd ei gipio gan Dafydd ap Llywelyn.
Enwogion [golygu]
- Rheinallt ap Gruffudd (bu farw 1465), arglwydd y Tŵr ac arweinydd gwladgarol, un o amddiffynwyr Castell Harlech yn Rhyfeloedd y Rhosynnau.
- Richard Wilson (1714-1782). Mae bedd yr arlunydd ym mynwent yr eglwys.
- John Humphreys Parry neu John Humffreys Parry (1786 - 1825), golygydd, hynafiaethydd a newyddiadurwr.
- John Blackwell (Alun) (1797-1841). Ganed y bardd ym Mhonterwyl ger yr Wyddgrug.
- Thomas Jones (Glan Alun) (1811-1866). Bardd.
- Roger Edwards (1811-1886). Gweinidog, Emynydd, Golygydd y Drysorfa.
- John Ambrose Lloyd (1815-1874). Cerddor a chyfansoddwr.
- Daniel Owen (1836-1895). Ganwyd y nofelydd, yn yr Wyddgrug yn 1836; cafodd ei gladdu ym mynwent y dref yn 1895.
Cyfrifiad 2011 [golygu]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]
Eisteddfod Genedlaethol [golygu]
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn yr Wyddgrug ym 1923, 1991 a 2007. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru yr Wyddgrug 1923
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru yr Wyddgrug 1991
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a'r Cyffiniau 2007
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Gweler hefyd [golygu]
Dolenni allanol [golygu]
Abermorddu · Afon-wen · Babell · Bagillt · Bistre · Bretton · Brychdyn · Brynffordd · Bwcle · Caergwrle · Caerwys · Carmel · Cefn-y-bedd · Cei Connah · Cilcain · Coed-llai · Coed-talon · Cymau · Chwitffordd · Ewlo · Y Fflint · Ffrith · Ffynnongroyw · Glan-y-don · Gorsedd · Gronant · Gwaenysgor · Gwernymynydd · Gwernaffield-y-Waun · Gwesbyr · Helygain · Higher Kinnerton · Yr Hob · Licswm · Llanasa · Llaneurgain · Llanferres · Llanfynydd · Llannerch-y-môr · Maes-glas · Mancot · Mostyn · Mynydd Isa · Nannerch · Nercwys · Neuadd Llaneurgain · Oakenholt · Pantasaph · Pant-y-mwyn · Penarlâg · Pentre Ffwrndan · Pentre Helygain · Pen-y-ffordd · Pontblyddyn · Pontybotgyn · Queensferry · Rhes-y-cae · Rhosesmor · Rhyd Talog · Rhyd-y-ceirw · Rhydymwyn · Saltney · Saltney Ferry · Sandycroft · Sealand · Shotton · Sychdyn · Talacre · Treffynnon · Trelawnyd · Trelogan · Treuddyn · Yr Wyddgrug · Ysgeifiog
