Licswm

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tafarn y Crown, Lixwm.

Pentref yn Sir y Fflint yw Licswm (Saesneg: Lixwm). Fe'i lleolir tua 4 milltir i'r de o Dreffynnon a thua 8 milltir i'r gogledd-orllewin o'r Wyddgrug. Rhed y ffordd B5121 trwy'r pentref.

Yn ôl ieithyddwyr, tardda'r enw o'r gair Saesneg likesome neu licksome (tafodieithol), enw a roddwyd gan y glowyr a ddaeth yno i weithio o Swydd Derby yn Lloegr. Cymreigiad o'r enw hwnnw yw 'Licswm' felly.[1] Ceir hefyd yr enw hynafol yr Wyddfid.[2]

Yn hanesyddol, mae Licswm o blwyf Ysgeifiog, pentref sy'n gorwedd tua milltir i'r gorllewin. I'r dwyrain ceir Mynydd Helygain.

Lleolir Ysgol Gynradd Licswm yn y pentref.

Cyfeiriadau[golygu]

CymruFflint.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir y Fflint. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato