BBC

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Logo BBC

Corfforaeth ddarlledu gyhoeddus y Deyrnas Unedig yw'r British Broadcasting Corporation neu'r BBC (dyweder "bi bi ec", neu "bi bi si"). Mae'n darparu gwasanaethau teledu, radio ac arlein trwy'r D.U., ac yn cyrraedd cynulleidfa fyd-eang trwy gyfrwng ei gwefannau, y gwasanaeth radio BBC World Service, ynghyd a nifer o fentrau masnachol yn y maes teledu, fel BBC America.

[golygu] Lleoliadau

Lleolir prif swyddfeydd canolog y gorfforaeth yng nghanol a gorllewin Llundain, gyda swyddfeydd a stiwdios ar gyfer y gwasanaethau i genedloedd a rhanbarthau Gwledydd Prydain mewn trefi a dinasoedd eraill. Mae cynllun ar droed hefyd i adleoli nifer o adrannau cynhyrchu'r BBC yn MediaCity yn ninas Salford ym Manceinion.

Yng Nghymru mae gan BBC Cymru bresenoldeb yng Nghaerdydd, Bangor, Aberystwyth, Caerfyrddin a Wrecsam a nifer o stiwdios eraill di-griw gan cynnwys Abertawe.

[golygu] BBC Cymru

Nuvola apps xmag.png
Prif erthygl: BBC Cymru
Logo BBC Cymru Wales

Adran neu ranbarth cenedlaethol y BBC ar gyfer Cymru yw BBC Cymru (BBC Wales).

Mae BBC Cymru yn darparu gwasanaethau yn Gymraeg, gan gynnwys rhai o raglenni mwyaf poblogaidd S4C, rhaglenni radio yn Gymraeg ar BBC Radio Cymru ac arlein ar wefan BBC Cymru.

Mae'r wefan BBC yn cynnwys newyddion, chwaraeon, tywydd, a gwybodaeth traffig a theithio, gwybodaeth am raglenni BBC Cymru a Radio Cymru, ac erthyglau ac adolygiadau ar nifer o bynciau yn cynnwys crefydd, y celfyddydau, hanes ac iaith. Mae'n hefyd yn cynnwys rhaglenni cymraeg ar BBC iplayer. Mae'r is-wefan yn darparu cyfleustra o'r enw "BBC Vocab/Geirfa" ar gyfer dysgwyr y Gymraeg, sy'n uwcholeuo rhai geiriau ac yn rhoi cyfieithiad Saesneg os lleolir y pwyntydd llygoden dros y gair.

[golygu] Dolenni allanol

Blank television set.svg Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato