Nannerch
Pentref bychan a chymuned yn Sir y Fflint yw Nannerch (Cyfeirnod OS: SJ166695). Saif fymryn oddi ar y briffordd A541, tua hanner y ffordd rhwng Yr Wyddgrug a Dinbych. Y boblogaeth yn 2001 oedd 531. Nid oes siop yma, ond ceir tafarn sydd yn dyddio yn ôl i'r 18ed ganrif, sef The Cross Foxes. mae yma ysgol gyda thua 60 o blant.
Yn y bryniau gerllaw mae olion bryngeiri Pen-y-Cloddiau a Moel Arthur. Ceir nifer o ffynhonau gan gynnwys Ffynnon Sara, sef tarddiad yr afon Chwiler, yn ôl traddodiad.
Mae cofnodion yn dangos y defnyddiwyd yr enw ar y lle mor bell yn ôl â 1254, sef yn wreiddiol yr enw ar yr afon. Mae'n gyfuniad o ddau enw: 'nant' ac 'erch' (Saesneg: dappled) fel a geir yn yr enw Abererch, ger Pwllheli.
Mae'r eglwys (sef St. Michael and All Angels) yn gymharol newydd ac yn dyddio o 1853 ac wedi ei godi o galchfaen lleol. Y pensaer oedd Thomas W Wyatt o Lundain. Saif Neuadd Penbedw gerllaw, neuadd braf a godwyd yn 1775 gyda cylch cerrig Celtaidd o'i flaen.
Cyfrifiad 2011 [golygu]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]
Enwogion [golygu]
- Edward Hughes (Y Dryw) (1772-1850), bardd
- Ellis Davies (1872-1962), hynafiaethydd
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Abermorddu · Afon-wen · Babell · Bagillt · Bistre · Bretton · Brychdyn · Brynffordd · Bwcle · Caergwrle · Caerwys · Carmel · Cefn-y-bedd · Cei Connah · Cilcain · Coed-llai · Coed-talon · Cymau · Chwitffordd · Ewlo · Y Fflint · Ffrith · Ffynnongroyw · Glan-y-don · Gorsedd · Gronant · Gwaenysgor · Gwernymynydd · Gwernaffield-y-Waun · Gwesbyr · Helygain · Higher Kinnerton · Yr Hob · Licswm · Llanasa · Llaneurgain · Llanferres · Llanfynydd · Llannerch-y-môr · Maes-glas · Mancot · Mostyn · Mynydd Isa · Nannerch · Nercwys · Neuadd Llaneurgain · Oakenholt · Pantasaph · Pant-y-mwyn · Penarlâg · Pentre Ffwrndan · Pentre Helygain · Pen-y-ffordd · Pontblyddyn · Pontybotgyn · Queensferry · Rhes-y-cae · Rhosesmor · Rhyd Talog · Rhyd-y-ceirw · Rhydymwyn · Saltney · Saltney Ferry · Sandycroft · Sealand · Shotton · Sychdyn · Talacre · Treffynnon · Trelawnyd · Trelogan · Treuddyn · Yr Wyddgrug · Ysgeifiog