Trelawnyd
Pentref bychan yn Sir y Fflint yw Trelawnyd (Newmarket rhwng 1710 ac 1954). Mae'n gorwedd yn y bryniau isel tua hanner ffordd rhwng Diserth i'r gorllewin a Trelogan i'r dwyrain. I'r gogledd ceir pentref Gwaenysgor. Rhed yr A5151 trwy'r pentref.
Cynnwys |
Hanes [golygu]
Ar bwys y pentref i'r gogledd, ceir Y Gop, bryn 250m sydd â lle arbennig yn hanes archaeoleg a chynhanes Cymru. Coronir ei gopa â charnedd anferth, un o'r rhai mwyaf yng Nghymru. Uchder y garnedd yw tua 12 medr ac mae tua 100 medr o led. Credir ei bod yn dyddio o Oes yr Efydd.[1] Ceir yn ogystal ogofâu ar lethrau'r Gop lle darganfuwyd olion cynhanesyddol.
Mae Trelawnyd yn un o blwyfi hynafol Sir y Fflint. Bu'n wreiddiol yn rhan o blwyf Diserth, ond daeth yn blwyf arwahan rhywbryd rhwng 1254 ac 1291, gan gynnwys trefgorddau Gop, Graig, Pentreffyddion a Rhydlyfnwyd.[2]
Newidwyd enw'r pentref i Newmarket (Cymraeg: "Marchnad Newydd") gan John Wynne o Gopa'rleni ym 1710,[3] drwy ennill cynneddf gan Gofrestra'r Esgob i'w newid. Roedd Wynne eisioes wedi ail-adeiladu rhan helaeth o'r pentref, a sefydlodd nifer o ddiwydiannau, marchnad wythnosol a ffair flynyddol.[2] Bwriad newid yr enw oedd i droi'r pentref yn dref farchnad ar gyfer yr ardal, ond methodd yr ymgyrch gan i'r Rhyl ddod yn brif dref marchnad yr ardal yn hytrach na Newmarket.[4] Parhaodd yr enw Newmarket hyd 1954, pan ail-enwyd y pentref yn swyddogol yn Nhrelawnyd.[2]
Ffurfiwyd Côr Meibion Trelawnyd ym 1933, er mwyn cystadlu yn Eisteddfod y pentref. Tyfodd aelodaeth y côr a daeth William Humphreys, tad y llenor Emyr Humphreys yn gôr-feistr. Dros y blynyddoedd bu'n canu llai a llai, ond yn 1946 ailsefydlwyd y côr gan fynd o nerth i nerth. Enillodd y côr gystadleuaethau yn yr Eisteddfod Genedlaethol sawl gwaith: yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Y Bala 1967 ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhuthun 1973. Mae'r côr yn dal i fynd hyd heddiw.[5]
Cyfleusterau [golygu]
Yn y pentref lleolir Ysgol Gynradd Trelawnyd, sef ysgol noddedig wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru, a tafarn y "Crown Inn" sy'n dyddio o'r 17eg ganrif.
Enwogion [golygu]
- Emyr Humphreys (ganwyd 1919) - llenor, bardd a nofelydd Cymreig o fri a anwyd yn Nhrelawnyd[6]
Gweler hefyd [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Christopher Houlder (Mawrth 1975). Wales: an archaeological guide. Faber. ISBN 9780571082216
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Trelawnyd (formerly Newmarket). Genuki. Adalwyd ar 14 Chwefror 2010.
- ↑ Y Bywgraffiadru Ar-lein: Wynne, John. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 14 Chwefror 2010.
- ↑ Trelawnyd Tourist Information. AboutBritain.com. Adalwyd ar 14 Chwefror 2010.
- ↑ Hanes. Côr Meibion Trelawnyd. Adalwyd ar 14 Chwefror 2010.
- ↑ BBC - North West Wales Arts-Emyr Humphreys. BBC. Adalwyd ar 1 Chwefror 2010.
Dolenni allanol [golygu]
- Côr Meibion Trelawnyd
- Ysgol Gynradd Trelawnyd
- Trelawnyd.com
- Lluniau o Drelawnyd a'r ardal cyfagos, geograph.co.uk
- Lluniau panoramig o Drelawnyd, BBC
Abermorddu · Afon-wen · Babell · Bagillt · Bistre · Bretton · Brychdyn · Brynffordd · Bwcle · Caergwrle · Caerwys · Carmel · Cefn-y-bedd · Cei Connah · Cilcain · Coed-llai · Coed-talon · Cymau · Chwitffordd · Ewlo · Y Fflint · Ffrith · Ffynnongroyw · Glan-y-don · Gorsedd · Gronant · Gwaenysgor · Gwernymynydd · Gwernaffield-y-Waun · Gwesbyr · Helygain · Higher Kinnerton · Yr Hob · Licswm · Llanasa · Llaneurgain · Llanferres · Llanfynydd · Llannerch-y-môr · Maes-glas · Mancot · Mostyn · Mynydd Isa · Nannerch · Nercwys · Neuadd Llaneurgain · Oakenholt · Pantasaph · Pant-y-mwyn · Penarlâg · Pentre Ffwrndan · Pentre Helygain · Pen-y-ffordd · Pontblyddyn · Pontybotgyn · Queensferry · Rhes-y-cae · Rhosesmor · Rhyd Talog · Rhyd-y-ceirw · Rhydymwyn · Saltney · Saltney Ferry · Sandycroft · Sealand · Shotton · Sychdyn · Talacre · Treffynnon · Trelawnyd · Trelogan · Treuddyn · Yr Wyddgrug · Ysgeifiog