Ffrith, Sir y Fflint

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref bychan yn Sir y Fflint yw Ffrith. Fe'i lleolir yn ne'r sir, tua hanner ffordd rhwng Yr Wyddgrug i'r gogledd a Wrecsam i'r de. Y pentref agosaf yw Llanfynydd, filltir i'r gogledd, a cheir Brymbo ychydig o filltiroedd i'r de. Rhed ffordd y B5101 trwy'r pentref.

Mynycha plant iau'r pentref Ysgol Gynradd Terrig, Treuddyn.


CymruFflint.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir y Fflint. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato