Penarlâg
Cyfesurynnau: 53°10′55″N 3°01′12″W / 53.182°N 3.02°W
| Penarlâg | |
| Saesneg: Hawarden | |
Y prif stryd fawr |
|
|
|
|
| Poblogaeth | 1,858 (Cyfrifiad 2001)[1] |
|---|---|
| Cyfeirnod grid yr AO | SJ315655 |
| Cymuned | Penarlâg |
| Prif ardal | Sir Fflint |
| Sir seremonïol | Clwyd |
| Gwlad | Cymru |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | GLANNAU DYFRDWY |
| Rhanbarth cod post | CH5 |
| Cod deialu | 01244 |
| Yr Heddlu | Gogledd Cymru |
| Tân | Gogledd Cymru |
| Ambiwlans | Cymru |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Cymru |
| Senedd y DU | Alun a Glannau Dyfrdwy |
| Cynulliad Cymru | Alun a Glannau Dyfrdwy |
| Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Sir Fflint | |
- Erthygl am y pentref yw hon. Am y cwmwd canoloesol gweler Penarlâg (cwmwd).
Mae Penarlâg (Saesneg: Hawarden) yn dref yn nwyrain Sir y Fflint, ar gyffordd yr A55 a'r A550 tua 6 milltir i'r gorllewin o ddinas Caer dros y ffin. Mae Llyfrgell Deiniol Sant, a sefydlwyd gan William Ewart Gladstone yno. Bu'r Rhyddfrydwr enwog fyw yn y pentref am dros 60 mlwydd. Deiniol yw nawddsant y plwyf. Ceir maes awyr bychan ger y pentref.
Cynnwys |
Eglwys Ddeiniol Sant [golygu]
Mae'r eglwys yn dyddio o'r 13eg ganrif os nad cynt ac yn gysegredig i Sant Deiniol, esgob cyntaf Bangor. Ond cafodd yr hen eglwys ei llosgi i gyd bron yn 1857. Codwyd yr eglwys newydd gan y pensaer Scott ac mae'n cynnwys nifer o ffenestri lliw godidog gan yr arlunydd cyn-Raffaelaidd Edward Burne-Jones.
Castell Penarlâg [golygu]
Cafodd Castell Penarlâg ei godi gan arglwyddi Normanaidd Caer. Fe'i cipiwyd a'i dinistrio gan Dafydd ap Gruffudd, gweithred a fu'n un o symbylau Ail Ryfel Annibyniaeth Cymru. Ni ddylid ei gymysgu â'r ffug-gastell o'r 18fed ganrif a elwir hefyd yn Gastell Penarlâg, cartref Gladstone.
Enwogion [golygu]
- William Ewart Gladstone
- Gary Speed - treuliodd cyn-gapten tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru ei ddyddiau ysgol yn y dref
Gweler hefyd [golygu]
- Penarlâg (cwmwd), cwmwd canoloesol
- Castell Ewlo, castell Cymreig ger Ewlo
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ "2001 Census: Hawarden Ward". Office for National Statistics. http://neighbourhood.statistics.gov.uk/dissemination/LeadKeyFigures.do?a=3&b=5939417&c=hawarden&d=14&e=16&g=414602&i=1001x1003x1004&m=0&r=1&s=1212103456132&enc=1. Adalwyd 30 May 2008.
Abermorddu · Afon-wen · Babell · Bagillt · Bistre · Bretton · Brychdyn · Brynffordd · Bwcle · Caergwrle · Caerwys · Carmel · Cefn-y-bedd · Cei Connah · Cilcain · Coed-llai · Coed-talon · Cymau · Chwitffordd · Ewlo · Y Fflint · Ffrith · Ffynnongroyw · Glan-y-don · Gorsedd · Gronant · Gwaenysgor · Gwernymynydd · Gwernaffield-y-Waun · Gwesbyr · Helygain · Higher Kinnerton · Yr Hob · Licswm · Llanasa · Llaneurgain · Llanferres · Llanfynydd · Llannerch-y-môr · Maes-glas · Mancot · Mostyn · Mynydd Isa · Nannerch · Nercwys · Neuadd Llaneurgain · Oakenholt · Pantasaph · Pant-y-mwyn · Penarlâg · Pentre Ffwrndan · Pentre Helygain · Pen-y-ffordd · Pontblyddyn · Pontybotgyn · Queensferry · Rhes-y-cae · Rhosesmor · Rhyd Talog · Rhyd-y-ceirw · Rhydymwyn · Saltney · Saltney Ferry · Sandycroft · Sealand · Shotton · Sychdyn · Talacre · Treffynnon · Trelawnyd · Trelogan · Treuddyn · Yr Wyddgrug · Ysgeifiog