Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cymru
Cathodyn y Crys/Arfbais y Gymdeithas
Llysenw Y Dreigiau
Cymdeithas Cymdeithas Pêl-droed Cymru
Conffederation UEFA
Prif Hyfforddwr Chris Coleman
Capten Aaron Ramsey
Mwyaf o Gapiau Neville Southall (92)
Prif sgoriwr Ian Rush (28)
Stadiwm cartref Stadiwm y Mileniwm
Côd FIFA WAL
Safle FIFA 50
Safle FIFA uchaf 27 (Awst 1993)
Safle FIFA isaf 117 (Awst 2011)
Safle ELO 54
Safle ELO uchaf 3 (1876–1885)
Safle ELO isaf 88 (Medi 2000)
Lliwiau cartref
Lliwiau oddi cartref
Gêm ryngwladol gyntaf
Baner Yr Alban Yr Alban 4 - 0 Cymru Baner Cymru
(Glasgow, Yr Alban; 26 Mawrth 1876)
Buddugoliaeth fwyaf
Baner Cymru Cymru 11 - 0 Iwerddon St Patrick's saltire.svg
(Wrecsam, Cymru; 3 Mawrth 1888)
Colled fwyaf
Baner Yr Alban Yr Alban 9 - 0 Cymru Baner Cymru
(Glasgow, Yr Alban; 23 Mawrth 1878)
Cwpan y Byd
Ymddangosiadau 1 (Cyntaf yn 1958)
Canlyniad Gorau Rownd yr Wyth Olaf, 1958
Pencampwriaeth Ewrop
Ymddangosiadau 0 (Cyntaf yn )
Canlyniad Gorau Rownd yr Wyth Olaf
(yn ymgymhwyso)


Diweddarwyd 27 Tachwedd 2011.

Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru yw'r tîm sy'n cynrychioli Cymru mewn pêl-droed dynion ar lefel ryngwladol. Rheolir y tîm gan Gymdeithas Pêl-droed Cymru.

Tîm Cymru yw'r trydydd hynaf o dimau pêl-droed cenedlaethol y byd. Chwaraeodd Cymru ei gêm ryngwladol gyntaf yn erbyn yr Alban ar 25 Mawrth 1876 yn Glasgow. Enillwyd y gêm gan yr Alban, o bedair gôl i ddim. Chwaraewyd y gêm ryngwladol gyntaf yng Nghymru yn y Cae Ras, Wrecsam ar 5 Mawrth 1877, eto yn erbyn yr Alban, gyda'r Alban yn ennill o ddwy gôl i ddim y tro hwn.

Cafodd Cymru eu canlyniad gorau newn cystadleuaeth ryngwladol yng Nghwpan y Byd 1958, pan gyrhaeddasant rownd yr wyth olaf cyn colli o un gôl i ddim i Brasil, a aeth ymlaen i ennill y gystadleuaeth.

Rhai o fuddugoliaethau gorau y mae tîm pêl-droed Cymru yw curo'r Almaen, (pencampwyr y byd ar y pryd) o 1-0 ar 5 Mehefin 1991 a churo'r Eidal o 2-1 ar 16 Hydref 2002.

Ymhlith y chwaraewyr pêl-droed enwocaf o Gymru mae John Charles a Ryan Giggs.

Cynnwys

[golygu] Canlyniadau diweddar

Dyddiad Cystadleuaeth Canlyniad
6 Medi 2011 Rhagbrofol Ewro 2012 Lloegr 1 - 0 Cymru
7 Hydref 2011 Rhagbrofol Ewro 2012 Cymru 2 - 0 Y Swistir
11 Hydref 2011 Rhagbrofol Ewro 2012 Bwlgaria 0 - 1 Cymru
12 Tachwedd 2011 Cyfeillgar Cymru 4 - 1 Norwy
29 Chwefror 2012 Cyfeillgar Cymru 0 - 1 Costa Rica

[golygu] Recordiau

[golygu] Mwyaf o Gapiau

Fel 13 Tachwedd 2011
Rhif Enw Gyrfa Capiau Goliau
1 Neville Southall 1982–1998 92 0
2 Gary Speed 1990–2004 85 7
3 Dean Saunders 1986–2001 75 22
4 Peter Nicholas 1979–1991 73 2
5 Ian Rush 1980–1996 73 28
6 Mark Hughes 1984–1999 72 16
7 Joey Jones 1975–1986 72 1
8 Craig Bellamy 1998- 68 19
9 Ivor Allchurch 1950–1966 68 23
10 Brian Flynn 1974–1984 66 7

[golygu] Prif sgorwyr

Fel 13 Tachwedd 2011
Rhif Enw Goliau Capiau
1 Ian Rush 28 73
2 Trevor Ford 23 38
3 Ivor Allchurch 23 68
4 Dean Saunders 22 75
5 Craig Bellamy 19 68
6 Robert Earnshaw 16 58
7 Cliff Jones 16 59
8 Mark Hughes 16 72
9 John Charles 15 38
10 John Hartson 14 51
  • Cyrf: Chwaraewr pêl-droed presennol
Sports icon.png Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill