Castell Caerdydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Sefydlwyd Castell Caerdydd ar safle ger canol dinas Caerdydd heddiw gan y Normaniaid yn 1091, ar safle caer Rufeinig. Gwelir gweddillion y gaer honno ar y safle hyd heddiw. Ychwanegwyd castell ffug gan Ardalydd Bute yn y 19eg ganrif.

Caer Rufeinig Caerdydd[golygu]

Prif erthygl: Caer Rufeinig Caerdydd.
Gorthwr Normanaidd Castell Caerdydd
Stafell Smygu Ardalydd Bute yn y castell newydd

Mae rhan helaeth o furiau'r Castell mwnt a beili Normanaidd wedi'u codi ar ben cwrs y muriau Rhufeinig gwreiddiol. Mewn stafelloedd arddangosfa dan y muriau presennol gellir gweld darnau o'r muriau Rhufeinig. Ymddengys i'r gaer gael ei chodi ar safle caer gynharach a godwyd tua diwedd y ganrif gyntaf OC. Adeiladwyd yr ail gaer o gerrig tywodfaen coch, efallai fel amddiffyniad yn erbyn ymosodiadau o'r môr, tua'r flwyddyn 400 OC.

Y castell Normanaidd[golygu]

Un o breswylwyr enwocaf y castell oedd Robert Curthose, a garcharwyd yno gan ei frawd ifancach, Brenin Harri I Lloegr, o 1106 tan 1134. Yn 1158, y castell oedd lleoliad herwgipiad beiddgar gan Ifor Bach. Daeth Owain Glyndŵr i reoli'r castell yn 1404, gan ei adael i'r Cymry tan i Siaspar Tudur, ewythr Harri Tudur, ei feddiannu yn 1488 fel diolch iddo am ei ran yn ymgyrchoedd ei nai.

Adeiladwaith diweddarach[golygu]

Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, codwyd castell hynafol ffug gan y pensaer William Burges, a oedd yn gweithio i Ardalydd Bute. Fe'i cynlluniwyd i edrych fel cartref a fyddai'n gweddu i un o straeon y Tylwyth Teg gyda nifer o gerfluniau cain a lluniau i'w addurno. Yn ddiweddarach fe'i rhoddwyd i ddinas Caerdydd gan deulu'r Bute. Mae bellach yn atyniad twristaidd poblogaidd ac mae'n gartref i amgueddfa lleng-filwrol, yn ogystal â gweddillion yr hen gastell. Mae'r hyn a godwyd yn Oes Victoria hefyd i'w gweld.

Mynediad a chyfleusterau[golygu]

Lleolir y castell yng nghanol Caerdydd a saif wrth ymyl Parc Bute. Lleolir canolfan ddinesig Parc Cathays gerllaw hefyd, ynghyd â'r prif strydoedd siopa.

Mae'n gartref i ddawns haf Prifysgol Caerdydd bob blwyddyn a chynhelir Mardi Gras mwyaf Cymru ar gaeau'r castell bob mis Awst.

Gyda lle i dros ddeng mil o bobl ymgynull, manteisiwyd ar hyn i gynnal nifer o gyngherddau roc a pherfformiadau byw, gan gynnwys un gan y grŵp Stereophonics ym mis Mehefin 1998.

Dolenni allanol[golygu]