Gwlad Belg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Koninkrijk België
Royaume de Belgique
Königreich Belgien

Teyrnas Gwlad Belg
Baner Gwlad Belg Arfbais Gwlad Belg
Baner Arfbais
Arwyddair: Eendracht maakt macht / L'union fait la force / Einigkeit macht stark
Mewn undeb mae nerth
Anthem: Brabançonne
Lleoliad Gwlad Belg
Prifddinas Brwsel
Dinas fwyaf Brwsel
Iaith / Ieithoedd swyddogol Iseldireg, Ffrangeg ac Almaeneg
Llywodraeth Brenhiniaeth gyfansoddiadol
 • Brenin
 • Prif Weinidog
Albert II
Elio Di Rupo
Annibyniaeth
 • Datganiad
 • Cydnabuwyd
Oddi wrth Yr Iseldiroedd
4 Hydref 1830
19 Ebrill 1839
Esgyniad i'r UE 25 Mawrth, 1957
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
30,528 km² (140fed)
6.4
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2005
 - Cyfrifiad 2001
 - Dwysedd
 
10,419,000 (77fed)
10,296,350
342/km² (29fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2006
$316.2 biliwn (30fed)
$31,400 (12fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.945 (9fed) – uchel
Arian cyfred Ewro1 (EUR)
Cylchfa amser
 - Haf
CET (UTC+1)
CEST (UTC+2)
Côd ISO y wlad .be2
Côd ffôn +32
1 Cyn i 1999: Franc Belgaidd
2 Hefyd .eu

Gwlad yng ngorllewin Ewrop yw Teyrnas Gwlad Belg neu Gwlad Belg (Iseldireg: België; Ffrangeg: Belgique; Almaeneg: Belgien). Mae wedi'i lleoli rhwng yr Iseldiroedd, yr Almaen, Lwcsembwrg, Ffrainc a Môr y Gogledd.

Mae'r wlad yn fan cyfarfod rhwng y diwylliant Tiwtonaidd a'r diwylliant Ffrengig. Siaredir Iseldireg yng ngogledd y wlad, Ffrangeg yn y de, ac Almaeneg mewn rhannau o'r de-ddwyrain. Ar adegau, mae cryn dyndra wedi datblygu rhwng y ddwy brif garfan ieithyddol. Ceisiwyd delio a'r sefyllfa yma trwy sefydlu rhanbarthau ac ardaloedd ieithyddol o fewn gwladwriaeth ffederal Gwlad Belg.

Cynnwys

[golygu] Rhanbarthau a thaleithiau

Rhennir y wlad yn dair rhanbarth, Rhanbarth Fflandrys, Walonia a Rhanbarth Brwsel-Prifddinas. Mae Fflandrys a Walonia yn cynnwys pum talaith yr un, tra nad yw Rhanbarth y Brifddinas yn rhan o'r system daleithiol.

[golygu] Fflandrys

[golygu] Walonia

[golygu] Ardaloedd ieithyddol

Sefydlwyd yr ardaloedd ieithyddol (Iseldireg: taalgebieden, Ffrangeg: régions linguistiques) yn 1963, a daethant yn rhan o'r Cyfansoddiad yn 1970. Ceir pedair o'r rhain:

  • ardal ieithyddol yr Iseldireg
  • ardal ddwyieithog Prifddinas-Brwsel
  • ardal ieithyddol Ffrangeg
  • ardal ieithyddol Almaeneg

Dynodir hefyd dair cymuned o fewn Gwlad Belg; mae'r rhain yn cyfeirio at y bobl ac nid ydynt yn raniadau daearyddol:

  • y Gymuned Fflemaidd (Vlaamse Gemeenschap), yn siarad Iseldireg
  • y Gymuned Ffrengig ei hiaith (Communauté Française)
  • y Gymuned Almaeneg ei hiaith (Deutschsprachige Gemeinschaft)


Gweler hefyd

Flag of Belgium.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad Belg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill