Dean Saunders
Oddi ar Wicipedia
Rheolwr a chyn-chwaraewr pêl droed yw Dean Nicholas Saunders (ganwyd 21 Mehefin 1964). Fe'i ganwyd yn Abertawe. Chwaraeodd dros Lerpwl, Galatasaray, Dinas Abertawe, a llawer o glybiau eraill ac fe enillodd 75 o gapiau dros Gymru rhwng 1986 a 2001.
O 2008 hyd 2011, roedd o'n rheolwr Wrecsam.