Chris Gunter

Oddi ar Wicipedia
Chris Gunter

Gunter yn cynrychioli Cymru yn 2016
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnChristopher Ross Gunter[1]
Dyddiad geni (1989-07-21) 21 Gorffennaf 1989 (34 oed)[1]
Man geniCasnewydd, Cymru
Taldra1.80m
SafleAmddiffynnwr
Y Clwb
Clwb presennolReading
Rhif2
Gyrfa Ieuenctid
1997–2006Dinas Caerdydd
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2006–2008Dinas Caerdydd28(0)
2008–2009Tottenham Hotspur5(0)
2009Nottingham Forest (benthyg)8(0)
2009–2012Nottingham Forest133(2)
2012–Reading201(3)
Tîm Cenedlaethol
2005–2006Cymru dan 1711(2)
2006Cymru dan 193(0)
2006–Cymru dan 218(0)
2007–Cymru77(0)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 14:52, 20 Chwefror 2017 (UTC).

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 14:52, 10 Chwefror 2017 (UTC)

Chwaraewr pêl-droed Cymreig yw Chris Gunter (ganwyd Christopher Ross Gunter 21 Gorffennaf 1989). Mae'n chwarae i Reading yn Adran y Bencampwriaeth o Gynghrair Lloegr a thîm cenedlaethol Cymru.

Dechreuodd ei yrfa gydag Academi Dinas Caerdydd ar ôl ymuno â'r clwb fel bachgen wyth mlwydd oed. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Gaerdydd ar 22 Awst 2006 yn erbyn Barnet yng Nghwpan y Gynghrair cyn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y Gynghrair yn erbyn QPR ar 17 Tachwedd 2006.[2].

Ym mis Rhagfyr 2006 cytunodd Caerdydd i werthu Gunter i Tottenham Hotspur am ffi o £3miliwn[3] gyda'r chwaraewr yn symud i Lundain ar 1 Ionawr 2008 pan agorwyd y ffenestr drosglwyddo yn swyddogol.

Ar 12 Mawrth 2009 wedi pum gêm yn unig i Spurs, cafodd ei fenthyg i Nottingham Forest am weddill tymor 2008/09 ac yn ystod haf 2009 symudodd yn barhaol i Forest am ffi o £1.75miliwn[4]. Symudodd i Reading ar 17 Gorffennaf 2012 gan arwyddo cytundeb tair blynedd â'r clwb.

Cafodd ei gap cyntaf i dîm cenedlaethol Cymru mewn gêm gyfeillgar ar Y Cae Ras,Wrecsam yn erbyn Seland Newydd ym mis Mai 2007[5] a casglodd cap rhif 50 yn erbyn Gwlad Belg ar 15 Hydref 2014 gan ddod y chwaraewr ieuengaf erioed i gyrraedd y garreg filltir arbennig yma[6].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Hugman, Barry J., gol. (2010). The PFA Footballers' Who's Who 2010–11. Mainstream Publishing. t. 181. ISBN 978-1-84596-601-0.
  2. "Cardiff 0–1 QPR". BBC Sport. 2006-11-17.
  3. "Tottenham confirm Gunter transfer". 2007-12-24. Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "Forest snap up Gunter and McKenna". 2009-07-20. Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "Wales v New Zealand Welsh Football Online". 2007-05-26. Unknown parameter |published= ignored (help)
  6. "Coleman believes Gunter can become the first Wales centurion". 2014-10-14. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-28. Cyrchwyd 2014-08-10. Unknown parameter |published= ignored (help)



Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droediwr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.