Queens Park Rangers F.C.

Oddi ar Wicipedia
Queens Park Rangers
Queens Park Rangers crest
Enw llawnQueens Park Rangers Football Club
(Clwb Pêl-droed
Queens Park Rangers)
LlysenwauQPR
The Hoops ("Y Cylchoedd")
Rangers[1]
Enw byrQPR
Sefydlwyd1882; 142 blynedd yn ôl (1882)
MaesLoftus Road Stadium
(sy'n dal: 18,489[2])
PerchennogTune Group
AirAsia (Cadeirydd: Tony Fernandes) (66%)
The Mittal family (33%)
CadeiryddBaner Maleisia Tony Fernandes
RheolwrBaner Lloegr Chris Ramsey
CynghrairUwchgynghrair Lloegr
2013–144ydd (a ddyrchafwyd drwy'r playoffs)
GwefanHafan y clwb
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref
Lliwiau Trydydd dewis
Tymor cyfredol

Clwb Pêl-droed proffesiynol a leolir yn Sheppard's Bush, Hammersmith a Fulham, Gorllewin Llundain yw Queens Park Rangers Football Club, cyfeirir ato fel arfer fel QPR. Mae'r clwb fel arfer yn ymryson oddi fewn i Uwchgynghrair Lloegr. Ymhlith y gwobrau maent wedi'u hennill y mae Cwpan Cynghrair Lloegr yn 1967 a dod yn ail yn yr hen Brif Adran (First Division) yn 1975–76.

Fe'i ffurfiwyd yn 1882 wedi i ddau glwb un: Christchurch Rangers a St. Judes Institute; eu lliwuau arferol ydy glas a gwyn. Queen's Park oedd yr ardal o Lundain lle leolwyd y clwb yn wreiddiol cyn symud i Loftus Road. Ceir sawl clwb pêl-droed cyfagos, a cheir cryn gystadleuaeth rhyngddynt e.e. Chelsea, Fulham a Brentford, a gelwir y gemau hyn yn West London Derbies. Y tu allan i Lundain, eu harchelynion yw Watford, Luton a Chaerdydd.


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Queens Park Rangers Football Club". premierleague.com. Premier League. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-12-27. Cyrchwyd 10 Rhagfyr 2012.
  2. "Queens Park Rangers". The Football League. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-09-24. Cyrchwyd 2015-04-03.
Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.