Wrecsam

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Wrecsam
Wrecsam
CymruWrecsam.png
Smotyn Coch.gif
Canol Wrecsam
Eglwys St Giles
Gweler hefyd Wrecsam (gwahaniaethu).

Tref yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw Wrecsam (Saesneg: Wrexham). Hi yw prif dref Bwrdeistref Sirol Wrecsam a'r dref fwyaf o ran poblogaeth yng ngogledd Cymru, gyda phoblogaeth o dros 42,576 yn Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001, ac roedd gan Ardal Drefol Wrecsam, fel y diffinwyd gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol, boblogaeth o 63,084.[1] Mae gan ardal ehanagach Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sy'n gorchuddio ardal o 50,500 hectar, boblogaeth o dros 130,000. Hon yw'r dref nawfed fwyaf yng Nghymru yn ôl poblogaeth, ond y pedwrydd yn ôl ei hardal drefol. Yn hanesyddol bu'n rhan o'r hen Sir Ddinbych, ac mae'n rhan o sir seremonïol Clwyd. Yr enw Saesneg Wristleham yw tarddiad yr enw Wrecsam yn Gymraeg, mae'r enw Saesneg hefyd wedi newid i Wrexham erbyn heddiw.

Cynnwys

[golygu] Hanes

Mae tystiolaeth o weithgaredd dyn yn ardal Wrecsam yn dyddio'n hyd i 8,000 o flynyddoedd yn ôl. Ond yr anheddiad cyntaf a wyddys amdani yw Castell Wristleham, castell mwnt a beili a leolwyd ar safle Parc Erddig ac a sefydlwyd ym 1161. Mae cofnod o Edward I, brenin Lloegr yn aros yn Wrecsam am gyfnod byr yn ystod ei ymgyrch i atal gwrthryfel Madog ap Llywelyn ym 1294. Daeth y dref yn rhan o Sir Ddinbych pan grewyd y sir ym 1536. Roedd Wrecsam wedi ei rannu'n ddwy drefgordd gwahanol, Wrexham Regis (dan reolaeth Brenin Lloegr) a Wrexham Abbot (rhannau hynaf y dref yn gyffredinol, a fu'n eiddo i Abaty Glyn y Groes, Llangollen yn wreiddiol).

Digwyddodd un o'r trychinebau mwyaf erchyll yn hanes pyllau glo Prydain yng Nglofa Gresffordd ger Wrecsam, pan laddwyd 265 o löwyr ar ôl ffrwydrad nwy yn y pwll ar yr 22 Medi 1934.

Clwb Pêl-droed Wrecsam ydyw'r clwb pêl-droed proffesiynol hynaf yng Nghymru.

Mewn rhigwm adnabyddus mae clochdy eglwys Wrecsam yn un o Saith Rhyfeddod Cymru.

[golygu] Eisteddfod Genedlaethol

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam ym 1888, 1912, 1933, a 1977.

[golygu] Addysg uwch

Mae yna berthynas freintiedig rhwng Wrecsam (Prifysgol Glyndŵr - Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru cynt) a Saint-Dié-des-Vosges (Institut universitaire de technologie), yn Ffrainc.

[golygu] Pobol enwog

[golygu] Gefeilldrefi

[golygu] Gweler hefyd

[golygu] Cyfeiriadau

CymruWrecsam.png Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Wrecsam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau
Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill