C.P.D. Wrecsam

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
C.P.D. Wrecsam
Logo cpdwrecsam.jpg
Enw llawn Clwb Pêl-droed Wrecsam
Llysenw(au) Y Dreigiau
Sefydlwyd 1872
Maes Y Cae Ras
Cynhwysedd 15,500
Cadeirydd Ian Roberts
Rheolwr Baner Lloegr Andy Morrell
Cynghrair Conference National
2010-2011 4ydd
Lliwiau cartref


Lliwiau oddi cartref


Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam yn glwb pêl-droed o ogledd Cymru sy'n chwarae yn Conference National Lloegr. Maes y clwb ydy'r Cae Ras, sydd wedi cynnal gemau rhyngwladol Cymru (pêl-droed a rygbi'r undeb) yn ogystal â bod yn gartref i'r Dreigiau (yn hanesyddol adnabyddir y clwb fel y 'Robins'). Yn 2011, fe brynwyd Y Cae Ras gan Brifysgol Glyndŵr.

Mae gan y clwb nifer o ymrysonau â chlybiau Seisnig, gan gynnwys Dinas Caer ac Amwythig.

[golygu] Hanes

Tu mewn i'r Cae Ras

Cafodd y clwb ei ffurfio yn 1872 (yn ôl bathodyn y clwb, 1873 oedd y flwyddyn). Cafodd ei groesawu i'r Gynghrair Lloegr yn 1921.

Mae'r clwb wedi cynyrchioli Cymru yn Ewrop sawl gwaith yn sgil ennill Cwpan Cymru. Gwnaethon nhw guro nifer o dîmau enwog, ac yn 1976 wnaethon nhw gyrraedd yr wyth olaf y European Cup Winners' Cup, cyn colli i Anderlecht.

Yn 2005 cipiwyd yr LDV Vans Trophy gan Wrecsam. Chwaraewyd y gêm yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd yn erbyn Southend F.C. gyda Darren Ferguson a Juan Ugarte'n sgorio mewn buddigoliaeth o 2-0.

Disgynodd y clwb allan o'r gynrhair yn nhymor 2007/08 ar ôl treulio 87 mlynedd ynddi.

[golygu] Rhestr Rheolwyr

[golygu] Dolenni allanol

Sports icon.png Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
CymruWrecsam.png Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Wrecsam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill