Prifysgol Glyndŵr
| Prifysgol Glyndŵr | |
|---|---|
| Sefydlwyd | 2008 (1887, fel Ysgol Gwyddoniaeth a Chelf Wrecsam) |
| Is-ganghellor | Michael Scott |
| Myfyrwyr | 7,410 (2005/2006)[1] |
| Israddedigion | 6,840[1] |
| Ôlraddedigion | 435[1] |
| Myfyrwyr eraill | 135[1] |
| Lleoliad | Wrecsam, Nodyn:Banergwald |
| Campws | Trefol |
| Tadogaethau | Prifysgol Cymru |
![]() |
|
| Gwefan | http://www.newi.ac.uk/cy/ |
Prifysgol yn Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Prifysgol Glyndŵr (Saesneg: Glyndŵr University). Yn cael ei hadnabod cynt fel NEWI (North East Wales Institute of Higher Education), derbyniodd statws prifysgol ar 3 Gorffennaf 2008 ar ôl bod yn aelod o Brifysgol Cymru ers 2003. Cafwyd seremoni i gyhoeddi'r brifysgol newydd yn swyddogol ar 18 Gorffennaf gyda Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru, yn ei llywio ac yn derbyn gradd er anrhydedd gyntaf y brifysgol.[2] Enwir y brifysgol ar ôl Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru, a fwriadai sefydlu dwy brifysgol yng Nghymru, un yn y Gogledd a'r llall yn y De, ar ddechrau'r 15fed ganrif.
Mae Prifysgol Glyndŵr bellach wedi gadael Prifysgol Cymru ac yn dyfarnu ei graddau ei hun. Y mae'r Brifysgol yn cynnig cyrsiau gradd ac ôl-radd. Yr Is-Ganghellor yw'r Athro Michael Scott. Mae gan y brifysgol tua 8,000 o fyfyrwyr llawn-amser gyda 350 ohonyn nhw yn dod o wledydd tramor.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Table 0a - All students by institution, mode of study, level of study, gender and domicile 2005/06. Higher Education Statistics Agency online statistics. Adalwyd ar 6 Ebrill 2007.
- ↑ Wrexham Evening Leader 18.07.08
