Casnewydd
| Casnewydd |
|
Casnewydd, neu Casnewydd-ar-Wysg (Saesneg Newport), yw trydedd ddinas fwyaf Cymru, a thref fwyaf yr hen Sir Fynwy. Er ei bod yn rhan hanesyddol o Sir Fynwy, heddiw mae'r ddinas yn cael ei gweinyddu gan gyngor dinas fel awdurdod unedol.
Cynnwys |
[golygu] Hanes
Ymwelodd Gerallt Gymro â Chasnewydd yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.
Ar 4 Mawrth 1839, arweiniodd John Frost, Zephaniah Williams a William Jones orymdaith o tua 3,000 o Siartwyr i Gasnewydd, gan geisio rhyddhau Siartwyr oedd wedi eu carcharu yn y Westgate Hotel. Daeth dilynwyr Frost o'r Coed Duon, dilynwyr Williams o Lyn Ebwy a chriw Jones o Bont-y-Pŵl. Roedd llawer o golofnau'r sefydliad yn y gwesty ynghyd â 60 o filwyr arfog. Taniwyd at y 'mob' gan filwyr Lloegr y tu allan i westy'r Westgate am tua 25 munud o gythrwfl, a bu farw 22 o bobl ac anafwyd dros hanner cant.
Rhoddwyd John Frost, William Jones a Zephaniah Williams ar eu prawf, eu cael yn euog a'u dedfrydu i gael eu crogi a'u chwarteru.[1] Wedi protest gyhoeddus, newidiwyd y ddedfryd i alltudiaeth, ac aed â hwy i Van Diemen's Land (Tasmania heddiw). Yn ôl rhai haneswyr, dyma gwrthryfel mwyaf a chryfaf gwledydd Prydain yn ystod y 19eg ganrif. [2].
[golygu] Economi
Yn hanesyddol diwydiant trwm, yn enwedig cynhyrchu dur, oedd sail economi Casnewydd. Tyfodd y dref[3] yn gyflym yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, ac erbyn hanner cyntaf y 19eg ganrif Casnewydd oedd brif dref y De gyda mwy o gyfoeth na Chaerdydd ac Abertawe gyda'i gilydd. Ar ôl eu gorffen, Dociau'r Hen Dref oedd y dociau mwyaf yn Ewrop yn anterth y diwydiant llongau. Yn y cyfnod ôl-ddiwydiannol mae'r ddinas wedi teimlo ergydion cau a lleihau'r gweithlu mewn gweithfeydd diwydiannol.[4]
Heddiw saif Casnewydd ar Goridor yr M4, rhwng prifddinas Cymru, Caerdydd, a Bryste yn Lloegr. Ym mlynyddoedd diweddar mae'r ddinas wedi buddsoddi'n uchel mewn sectorau economaidd modern, yn bennaf diwydiannau gwasanaethau ac uwch-dechnoleg. Yn y degawd diwethaf bu mwy na £3 biliwn o fuddsoddiad preifat a grëwyd dros 10,000 swydd. Mae Casnewydd ymhlith y pum lleoliad uchaf o ran sefydlu busnesau yn y Deyrnas Unedig.[4]
Casnewydd fydd yn cynnal Cwpan Ryder 2010 ar gwrs golff y Celtic Manor. Ystyrid y fydd hyn yn hwb i economi Casnewydd a Chymru i gyd, yn enwedig y diwydiant twristiaeth; rhagwelir y bydd y gystadleuaeth golff yn denu 30 000 o ymwelwyr ychwanegol i Gymru.[5] Yn ôl gwefan swyddogol y gystadleuaeth, "amcangyfrifir bod cynnal y digwyddiad yng Nghymru (gwerth) dros £40m mewn mewnlif arian uniongyrchol, gyda chyfanswm effaith gwariant o £67m o bosibl".[6]
[golygu] Cludiant
Saif Casnewydd ar y brif linell reilffordd rhwng Abertawe a Llundain Paddington. Mae llinell reilffordd y Gororau yn mynd i'r gogledd o Gasnewydd, i Henffordd ac Amwythig, a bwriedir ail-agor y llinell i Lyn Ebwy yn 2009. Mae traffordd yr M4 a hen briffordd yr A48 yn pasio drwy Gasnewydd. Mae Pont Gludo Casnewydd, sy'n croesi Afon Wysg, yn un o ddim ond tuag wyth enghraifft o Bont Gludo sy'n parhau i gael ei defnyddio yn y byd.
[golygu] Addysg
Lleolir un o golegau Prifysgol Cymru yng Nghasnewydd. Mae gan Gasnewydd ddwy ysgol Gymraeg, sef Ysgol Gymraeg Casnewydd ac Ysgol Ifor Hael.
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nghasnewydd ym 1897, 1988 a 2004.
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ Strands – John Frost. newportpast.com.
- ↑ Edward Royal, Chartism, Longman, London: 1996
- ↑ Gwnaed Casnewydd yn ddinas yn 2002.
- ↑ 4.0 4.1 Strategaeth Gymunedol Casnewydd – llunio'r dyfodol gyda'n gilydd 2005 - 2015. Adalwyd ar 26 Medi, 2008.
- ↑ Cwpan Ryder Cymru 2010. Llywodraeth Cynulliad Cymru. Adalwyd ar 26 Medi, 2008.
- ↑ Busnes. Cwpan Ryder Cymru 2010. Adalwyd ar 26 Medi, 2008.
[golygu] Gweler hefyd
|
|
|
|---|---|
| Abertawe | Bangor | Caerdydd | Casnewydd | Tyddewi | |

