Langstone, Casnewydd
Oddi ar Wicipedia
Pentref, cymuned a ward etholiadol ym mwrdeisdref sirol Casnewydd yw Langstone. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 2,770.
Saif Langstone i'r dwyrain o ganol dinas Casnewydd, ar gyrion yr ardal adeiledig. Tyfodd y pentref o gwmpas y briffordd A48, yna yn y 1990au adeiladwyd nifer o stadau tai. Heblaw Lanstone ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi bychain Llanbeder, Llandevaud a Llanfarthyn.
Ceir nifer o henebion yma, yn cynnwys gweddillion dau gastell mwnt a beili, ac olion gwersyll Rhufeinig. Ceir Chwarel Penhow yn y gymuned hefyd.
Trefi a phentrefi Bwrdeistref Sirol Casnewydd