Allteuryn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref bychan a phlwyf i'r de-ddwyrain o ddinas Casnewydd yw Allteuryn, weithiau Allt Euryn neu Gallt Euryn (Saesneg: Goldcliff).

Saif ger aber Afon Hafren, ac ar lanw uchel mae llawer o'r tir yn is na lefel y môr. Bu morglawdd yma o gyfnod cynnar; yn 1878 cafwyd hyd i garreg yn cofnodi i lengfilwyr Rhufeinig weithio ar glawdd yma. Cipiwyd y tir oddi wrth Owain Wan gan Robert de Chandos, a sefydlodd Briordy Allteuryn yma ychydig cyn 1113.

Gerllaw mae Gwarchodfa Natur Gwlybtiroedd Casnewydd, a agorwyd ym mis Mawrth 2000.


CymruCasnewydd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Gasnewydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato