Llan-wern
Pentref, cymuned a ward etholiadol ym mwrdeistref sirol Casnewydd yw Llan-wern (Cyfeirnod OS: ST3688), hefyd Llanwern. Saif ar ffîn ddwyreiniol dinas Casnewydd. Mae dwy ystyr i'r gair 'gwern': y goeden (alder) a'r tir gwlyb hwnnw lle mae'n tyfu. Cofnodwyd enw'r pentref yn gyntaf yn 1321 ("Llanwaryn"). Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 333, a phoblogaeth y ward etholiadol yn 3,027.
Yn y gymuned yma yr oedd Llanwern House, cartref David Alfred Thomas, Arglwydd Rhondda. Fe'i dymchwelwyd yn y 1950au. Claddwyd Thomas ym mynwent yr eglwys, ac mae neuadd y pentref yn rhodd ganddo ef. Roedd gan y bardd W.H. Davies gysylltiad a'r pentref hefyd.
Prif nodwedd y gymuned yw hen waith dur Llan-wern, a agorwyd yn 1962; y gwaith dur integredig cyntaf ym Mhrydain. Rhoddwyd y gorau i gynhyrchu dur yma yn 2001, a'i droi yn ffatri gorffennu. Yn 2004, cyhoeddwyd bwriad i ail-ddatblygu rhan o'r safle. Mae'r safle yn ymestyn i gymuned Trefesgob.