Y Redwig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Casnewydd yw Y Redwig[1] (Saesneg: Redwick) (Cyfeirnod Os: ST4184). Saif yng ne-ddwyrain y sir, gerllaw aber afon Hafren. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 194.

Mae'r eglwys, sef Eglwys Sant Thomas, yn adeilad nodedig, "gyda'r harddaf o eglwysi Gwastadeddau Gwent" yn ôl Gwyddoniadur Cymru, ac mae'r ffenestr ddwyrieiniol yn enghraiift nodedig o'r arddull addurnedig. Mae rhai o'r clychau yn dyddio i tua 1380, a'r bedyddfaen o'r 13eg ganrif.

Cafwyd hyd i olion adeiladau o Oes yr Efydd ar y traeth gerllaw'r Redwig; pedwar adeilad hirsgwar. Credir eu bod yn arwydd o weithgareddau tymhorol ger y traeth, efallai dod ag anifeiliaid yno i bori.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5]


Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Y Redwig (pob oed) (206)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Redwig) (19)
  
9.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Redwig) (156)
  
75.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Y Redwig) (23)
  
28.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Dictionary of the Place-names of Wales gan Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Gwasg Gomer, 2008.
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013