Cymuned (Cymru)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cymuned yw'r uned leiaf o lywodraeth leol yng Nghymru. Hyd 1974, rhennid Cymru yn blwyfi sifil at bwrpas llywodraeth leol. Roedd y rhain wedi eu seilio yn fras ar y plwyfi eglwysig. Dan Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972, diddymwyd y plwyfi sifil yng Nghymru (adran 20 (6)), ac yn eu lle, rhannwyd y wlad yn 869 o gymunedau (adran 27 o'r Ddeddf). Amrywia'r cymunedau o rannau o ddinasoedd gyda phoblogaeth sylweddol - y fwyaf o ran poblogaeth yw Y Barri gyda phoblogaeth o 45,053 - hyd at o leiaf ddwy gymuned sydd heb boblogaeth barhaol o gwbl, Bae Baglan a Morfa Margam.

Gall pob cymuned gael Cyngor Cymuned. Gall Cyngor Cymuned ei alw ei hun yn Gyngor Tref neu'n Gyngor Dinas lle mae hyn yn addas; mae dwy gymuned yn ddinasoedd ar hyn o bryd: Tyddewi a Bangor. Rhennir dinasoedd mwy, megis Caerdydd, yn nifer o gymunedau. Fel rheol, gelwir arweinydd Cyngor Dinas neu Gyngor Tref yn Faer. Cynrychiolir cynghorau cymuned a thref Cymru gan Un Llais Cymru.

Nid oes rhaid i gymuned fod a Chyngor Cymuned; mae poblogaeth rhai cymunedau yn rhy fach i gynnal cyngor. Dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, gall cymuned ofyn i'r cyngor sir neu gyngor bwrdeisdref sirol berthnasol am gael ei grwpio gyda chymunedau eraill er mwyn dod dan un cyngor cymuned ar y cyd, cyn belled a bod y cymunedau i gyd yn yr un sir neu fwrdeisdref sirol.

At bwrpas etholiad, gall cymuned gael ei rhannu yn nifer o wardiau cymunedol, neu gall fod un ward gyda'r un enw a'r un ffiniau a'r gymuned, neu gellir cyfuno mwy nag un gymuned i grau ward.

Gweler hefyd[golygu]

Dolenni allanol[golygu]