Guangxi
Oddi ar Wicipedia
Rhanbarth ymreolaethol o fewn Gweriniaeth Pobl Tsieina yw Guangxi neu Rhanbarth Ymreolaethol Guangxi Zhuang (Zhuang: Gvangjsih Bouxcuengh Swcigih; Tsineëg Syml: 广西壮族自治区; pinyin: Guǎngxī Zhuàngzú Zìzhìqū). Saif yn ne y wlad, ac mae gan y rhanbarth arwynebedd o 236,700 km². Y brifddinas yw Nanning.
Roedd y boblogaeth yn 2002 yn 48,220,000. Tsineaid Han yw'r mwyafrif, 62% yn 2002, ond ceir 12 prif grŵp ethnig yma. Y prif grwpiau yw'r Yao, Miao, Dong, Mulam, Maonan, Hui, Gin, Yi, Sui a'r Gelao. Mae hefyd tua 25 o grwpiau ethnig llai. Yn 1958 daeth Guangxi yn Rhanbarth ymreolaethol yn hytrach na thalaith oherwydd y ganran uchel o'r grwpiau wthnig hyn.
| Israniadau gweinyddol Gweriniaeth Pobl Tsieina | |
|---|---|
| Taleithiau | Anhui • Fujian • Gansu • Guangdong • Guizhou • Hainan • Hebei • Heilongjiang • Henan • Hubei • Hunan • Jiangsu • Jiangxi • Jilin • Liaoning • Qinghai • Shaanxi • Shandong • Shanxi • Sichuan • Yunnan • Zhejiang |
| Taleithiau dinesig | Beijing • Chongqing • Shanghai • Tianjin |
| Rhanbarthau ymreolaethol | Guangxi • Mongolia Fewnol • Ningxia • Tibet • Xinjiang |
| Rhanbarthau Gweinyddol Arbennig | Hong Kong • Macau |