Llywodraeth Cymru
| Cymru |
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar: |
|
|
|
Llywodraeth
Cymru o fewn y DU
Cymru o fewn yr UE
Gweithgarwch gwleidyddol
|
|
|
Llywodraeth Cymru (Saesneg: Welsh Government) yw'r llywodraeth ar gyfer Cymru sy'n cynnwys y Prif Weinidog a'i Gabinet. Hyd mis Mai 2011, yr enw oedd Llywodraeth Cynulliad Cymru (Saesneg: Welsh Assembly Government). Newidwyd yr enw er mwyn osgoi dryswch rhwng y llywodraeth hwn a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.[1] Fe'i gyfansoddwyd dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006; mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru yn ddau gorff ar wahân - yr un fath â Senedd y Deyrnas Unedig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Y corff democrataidd sy'n cynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl, sy'n llunio cyfreithiau Cymru ac sy'n gwneud Llywodraeth Cymru'n atebol yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru.[2]
Cynnwys |
Gweinidogion [golygu]
Dyma gyfansoddiad Llywodraeth Cynulliad Cymru ers mis Mai, 2011:
- Prif Weinidog Cymru: Carwyn Jones
- Gweinidog dros Gyllid ac Arweinydd y Tŷ: Jane Hutt
- Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Lesley Griffiths
- Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Edwina Hart
- Gweinidog dros yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy: John Griffiths
- Gweinidog Addysg a Sgiliau: Leighton Andrews
- Gweinidog dros Dai, Adfywio a Threftadaeth: Huw Lewis
- Gweinidog dros Llywodraeth Leol a Chymunedau: Carl Sargeant
- Y Cwnsler Cyffredinol: Theodore Huckle CF
Mae'r Prif Weinidog yn penodi pedwar Dirprwy Weinidog i gynorthwyo mewn meysydd polisi penodol.
- Dirpwry Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwenda Thomas
- Dirprwy Weinidog Sgiliau Jeff Cuthbert
- Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd Alun Davies
Adrannau [golygu]
- Y Gyfarwyddiaeth Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
- Adran Addysg a Sgiliau
- Adran Llywodraeth Leol a Chymunedau
- Yr Adran Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad
- Is-Adran yr Ysgrifenydd Parhaol
- Adran Gwasanaethau Cyfreithiol
- Swyddfa'r Prif Weinidog
- Yr is-adran Materion Cyfansoddiadol a Chysylltiadau Rhyng-lywodraethol
- Yr is-adran Materion Ewrop a Chysylltiadau Rhyngwladol
- Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant
- Y Gyfarwyddiaeth Dyfodol Cynaliadwy
Gweler hefyd [golygu]
- Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- Datganoli
- Llywodraeth
- Refferendwm ar bwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Carwyn Jones unveils three new faces in Welsh cabinet. BBC (13 Mai 2011).
- ↑ "Cynulliad Cenedlaethol Cymru". 8 Medi 2011. http://wales.gov.uk/about/organisationexplained/nafw/?lang=cy. Adalwyd 30 Ebrill 2012.
Dolen allanol [golygu]
|
|||||