Etholiadau yng Nghymru
| Cymru |
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar: |
|
|
|
Cymru o fewn y DU
Cymru o fewn yr UE
Gweithgarwch gwleidyddol
|
|
|
Mae gan Gymru etholiadau i bedair haen lywodraethol: 22 o awdurdodau unedol lleol, y Cynulliad Cenedlaethol, Senedd y Deyrnas Unedig a Senedd Ewrop.
Cynnwys |
Llywodraeth leol [golygu]
Cynhalir etholiadau i 22 awdurdod unedol lleol Cymru pob pedair mlynedd. Defnyddir y system etholiadol gyntaf i'r felin.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru [golygu]
Cynhelir etholiadau i'r Cynulliad Cenedlaethol pob pedair mlynedd i ethol 60 o Aelodau Cynulliad. Mae gan bledileiswyr ddwy bleidlais: un sy'n dewis 40 o ACau mewn etholaethau unigol trwy'r system gyntaf i'r felin, ac un sy'n dewis 20 o ACau ar gyfer y rhanbarthau (Dwyrain De Cymru, Canol De Cymru, Gorllewin De Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gogledd Cymru) – etholir pedwar AC, ar sail cyfrannolaeth y bleidlais, ar gyfer pob rhanbarth.
Senedd y Deyrnas Unedig [golygu]
Mae pleidleiswyr yng Nghymru yn ethol 40 o Aelodau Seneddol i Dŷ'r Cyffredin pob pedair mlynedd mewn etholiad cyffredinol Prydeinig. Am ASau Cymru, gweler Rhestr aelodau seneddol Cymru.
Senedd Ewrop [golygu]
Mae Cymru yn etholaeth mewn etholiadau Senedd Ewrop.