Cwnsler Cyffredinol Cymru

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cymru
Flag of Wales 2.svg

Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar:
wleidyddiaeth a llywodraeth
Cymru



gweld  sgwrs  golygu

Y brif ffynhonnell cyngor cyfreithiol i Lywodraeth Cymru ac aelod o Gabinet Llywodraeth Cymru[1] yw Cwnsler Cyffredinol Cymru. Ei swyddogaeth yw i gynghori Llywodraeth Cymru ar faterion deddfwriaethol yng Nghymru a chymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.

Disgrifir swydd y Cwnsler Cyffredonol (yn swyddogol Cwnsler Cyffredinol i Lywodraeth Cymru) yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006.[2] Penodir y Cwnsler Cyffredinol gan y teyrn Prydeinig (Elisabeth II ar hyn o bryd) ar enwebiad Prif Weinidog Cymru, ac mae'n rhaid i'r Cynulliad gytuno ar yr argymhelliad. Gall y Cwnsler Cyffredinol fod yn Aelod o'r Cynulliad, ond nid yw hyn yn amod angenrheidiol.[3]

Y Cwnsler Cyffredinol cyntaf oedd Carwyn Jones, AC dros Pen-y-bont ar Ogwr, oedd hefyd yn cyflawni'r swydd o Arweinydd y Tŷ.[4] Pan ddaeth Jones yn Brif Weinidog yn 2009 fe benodwyd John Griffiths AC i'w olynu.[5] Penodwyd y Cwnsler Cyffredinol cyfredol, Theodore Huckle, yn swyddogol ar 10 Mehefin 2011, ac ef yw'r person cyntaf i ddal y swydd nad yw'n Aelod y Cynulliad.[6]

Rhestr Cwnsleriaid Cyffredinol Cymru[golygu]

Enw Llun Dechrau'r swydd Gadael y swydd Plaid wleidyddol Llywodraeth
Carwyn Jones AC 19 Gorffennaf 2007 10 Rhagfyr 2009 Llafur Clymblaid Llafur/Plaid Cymru
John Griffiths AC 10 Rhagfyr 2009 10 Mehefin 2011 Llafur Clymblaid Llafur/Plaid Cymru
Theodore Huckle CF 10 Mehefin 2011 deiliad Llafur Llafur

Cyfeiriadau[golygu]

  1.  Aelodau'r Cabinet. Llywodraeth Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd, 2008.
  2. (Saesneg) Testun Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (adran 49). OPSI. Adalwyd ar 8 Tachwedd, 2008.
  3.  Canllaw i 'r Ddeddf - Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Llywodraeth Cynulliad Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd, 2008.
  4.  Carwyn Jones AC. Llywodraeth Cynulliad Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd, 2008.
  5. "Carwyn Jones yn cyhoeddi aelodau ei gabinet newydd", BBC, 10 Rhagfyr 2009.
  6.  Theodore Huckle CF. Llywodraeth Cymru. Adalwyd ar 25 Mawrth 2011.